Symud i'r prif gynnwys

PROSIECT: Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro 

 

Tair Mapuche Tehuelche ifainc ydym ni, yn aelodau o gymuned Mapuche-Tehuelche Nahuelpan. Fel nifer o'n cyndeidiau, credwny dylai ein hanes gael ei adrodd gan ein lleisiau ni ein hunain. 

Ers degawdau maen nhw wedi ceisio ein tawelu, weithiau mewn ffyrdd anuniongyrchol, bron yn anweladwy, ac weithiau'n gas a threisgar. Dyna pam mae llawer wedi gwarchod a gofalu am y straeon/hanesion/gwybodaeth hyn sy'n treiddio ein cymuned a'n teuluoedd hefyd. Heddiw, ystyriwn ei bod hi'n hollbwysig fod pobl yn dysgu am hanes Nahuelpan, ond o atgofion, straeon llafar, delweddau ayyb. 

Mae'r mapu [tir] a baratôdd Cacique Nahuelpan yn parhau i gadw'r seremoniau a gwybodaeth hynafol ar gyfer y rhai sy'n dymuno dysgu, ailddarganfod a chryfhau eu hunain yn y nag mapu [tir mawr] hwn. Ymunodd ein llwybrau eto i gydweithio ar y prosiect hwn a sawl un arall, er mwyn ein cymuned, allan o barch at ein mapu, er cof am ein kuifikecheyem [cyndeidiau], am eu dysgeidiaeth a hefyd gyda'u cryfder. 

Fideo: Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro - Andrés Antieco

Fideo: Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro - Susana Panquilef

Fideo: Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro - Etelvina Rojas

Fideo: Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro - Felipe Suárez

 

Jenifer Paola Nahuelpan

Mari, mari compuche, inche jenifer Nahuelpan, aelod o lof Boquete Nahuelpan. Rwy'n byw yn Esquel, ond bûm ar y diriogaeth o hyd cyn hynny. Treuliais y rhan fwyaf o'm plentyndod gyda fy mam-gu, Margarita Antieco, a'm tad-cu, yn ardal Nahuelpan. Ers yn blentyn, roedd fy mam-gu yn siarad Mapudungun â mi. Y gwersi hyn, ynghyd â rhai fy nhad, a ddechreuodd fy llwybr fel Mapuche Tehuelche, ac adfer gwersi ein teidiau a oedd yn cael eu colli'n raddol ond sydd wrthi'n ailymddangos yn gryf yn ein lof ni. 

Yn y prosiect clyweledol hwn, a enwom Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro, troediom lawer o emosiynau a chodwn straeon i'r wyneb a dysgu amdanynt trwy gof byw. Mae'r straeon hyn yn adlewyrchu profiadau llawer o bobl yn ein cymuned, sy'n gafael yn dy fywyd a'i newid, oherwydd ynddynt y gwelwn y tristwch sy'n ymestyn dros genedlaethau. Dyna'r tristwch y maen ein cymuned heddiw yn troi'n frwydr, a hoffwn fod yn rhan o hynny. Gobeithiaf fod hyn oll yn cael ei adlewyrchu yn y prosiect clyweledol hwn. 

Luisa Ayleen Suarez

Aelod o lof Boquete Nahuelpan. 

Gina Jara

Aelod o lof Boquete Nahuelpan.

Diolch 

I'n holl gyndeidiau a adawodd eu gwybodaeth a'u cryfder inni.
I bob un a rannodd ei stori: Andres Antieco, Felipe Suarez, Susana Panquilef, Etelvina Rojas, Javier Nahuelpan, Francisco Huenchman a Silvia Quilaqueo. 
I'n teuluoedd.