Symud i'r prif gynnwys

Wedi'i greu gan Brifysgol Abertawe fel rhan o'r prosiect Problemateiddio Hanes: Safbwyntiau brodorol ar yr ymsefydlu Cymreig ym Mhatagonia

Nod yr adnodd

Gall yr adnoddau dysgu ar y dudalen hon helpu athrawon a disgyblion i:

  • Ymchwilio i ffynonellau byd eang newydd i ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
  • Ddadansoddi hunaniaethau yng Nghymru a’r byd, gan ystyried gall hunaniaethau newid dros amser.

Cyfeirir at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r disgrifiadau dysgu yn adran ‘Meysydd Dysgu a Phrofiad’.

Noder os gwelwch yn dda: Darperir yr adnoddau at ddibenion addysgol ac ymchwil yn unig ac maent wedi'u trwyddedu o dan y Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0 (CC BY-NC-ND 4.0). Nid yw'r awduron na Phrifysgol Abertawe yn gwneud unrhyw gynrychioliadau na gwarantau ynghylch cywirdeb na chyflawnder y cynnwys ac nid ydynt yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod all ddeillio o ddefnyddio neu ddibynnu ar y deunyddiau.

Cefndir

Mae talaith Chubut yn ardal ym Mhatagonia, yr Ariannin, sydd yn gartref i gymuned Gymreig ers y 19eg ganrif. Mae pobl yn aml yn cyfeirio ati fel “Y Wladfa”. Ym 1865, teithiodd grŵp o Gymry i Batagonia ar long o'r enw Mimosa, gan sefydlu trefi fel Rawson, Trelew a Gaiman. Roedd y fenter hon yn ymgais i greu cymuned lle gallent gadw eu hiaith a'u diwylliant Cymreig, ond roedd cael mynediad at dir a bywyd gwell hefyd yn ysgogiad pwysig i’r ymfudwyr.

Llywodraeth yr Ariannin oedd wedi cynnig i’r ymfudwyr y tiroedd ger yr afon Chupat (fyddai’n golygu “tryloyw” yn iaith y Tehuelche), a ddaeth wedyn yn afon “Camwy” yn y Gymraeg a “Chubut” (ynganer “tswbwt”) yn y Sbaeneg. Bryd hynny, roedd y bobloedd frodorol oedd yn byw ym Mhatagonia yn annibynnol, heb fod yn atebol i gyfreithiau’r Ariannin. Roedd llywodraeth yr Ariannin wedi llunio cytundeb o’r enw “Cytundeb Chegüelcho” (yn cyfeirio at y bobl Tehuelche) gyda’r penaethiaid brodorol lleol. Yn ôl y cytundeb hwnnw, byddai’r llywodraeth yn anfon dognau rheolaidd i’r cymunedau, yn ogystal â darparu anifeiliaid a dillad, pe byddai’r penaethiaid yn gadael i’r sefydliad Cymreig ddatblygu ar y tiroedd dan sylw.

Er i’r Cymry a’r bobl frodorol sefydlu masnach lewyrchus ar hyd y blynyddoedd, roedd Llywodraeth yr Ariannin am ehangu ei rheolaeth dros diroedd Patagonia. Fe aeth ati drwy gynyddu’r pwysau ar y bobloedd frodorol, yn arbennig trwy’r ymgyrchoedd milwrol a elwir yn “Goncwest yr Anialwch” (1879-1884). Cafodd miloedd –yn cynnwys plant a’r henoed– eu lladd a’u dadleoli yn ei sgil. Chwalwyd y cymunedau a meddiannodd y wladwriaeth eu tiriogaethau a’u cynnig i ymfudwyr o Ewrop fyddai’n fodlon sefydlu arnynt (yn cynnwys y Cymry).

Gan bod y berthynas rhwng y bobloedd frodorol a’u tiriogaethau’n agos iawn iawn, dylanwadodd cynnydd y wladwriaeth yn aruthrol arnynt mewn sawl ffordd:

  • Colli eu cartrefi ac effaith ar eu ffordd o fyw: Wrth i’r teuluoedd gael eu troi allan a’i difeddiannu, cafodd eu ffordd o fyw ei rhwygo, gan dorri eu cysylltiadau emosiynol, cosmolegol, gwleidyddol ac economaidd â'u tiroedd hynafol.
  • Newidiadau economaidd: Roedd y ffermydd enfawr a’r diwydiant da byw gafodd eu sefydlu ym Mhatagonia yn niweidiol iawn i economi’r bobloedd frodorol, gan gyfyngu’n sylweddol ar argaeledd tir iddynt hela a chasglu bwyd, a’u gorfodi i addasu i ffordd o fyw newydd. Arweiniodd hyn at dlodi a dibyniaeth ar y gymdeithas newydd a’i strwythur economaidd, gan iddynt orfod gweithio fel llafurwyr heb hawliau cyflogaeth.
  • Clefydau: Daeth cysylltiad â'r Cymry a phobl eraill o'r tu allan â chlefydau heintus newydd i'r ardal, gan achosi epidemigau marwol ymhlith y brodorion.
  • Newid hunaniaeth: Ar ben y ffaith cafodd y tiriogaethau eu cymryd oddi wrth y bobloedd frodorol, gorfodwyd y rhai a oroesodd i gymathu. Roedd cymathu’n golygu addasu eu hunain er mwyn bod yn debyg i weddill poblogaeth yr Ariannin a cholli nodweddion brodorol. Cafodd eu traddodiadau a'u ffordd o fyw eu disodli drwy bolisïau oedd yn cynnwys gorfod mabwysiadu enwau Sbaeneg, troi at Gristnogaeth
    ac atal eu hieithoedd a'u harferion yn ehangach.

Mae canlyniadau'r agweddau uchod yn parhau i effeithio ar bobloedd frodorol Patagonia hyd heddiw, gan amharu ar eu hawliau tir, eu cydnabyddiaeth ddiwylliannol a'u lles economaidd a chymdeithasol. Wrth i ni ddysgu am Y Wladfa, rhaid i ni gofio bod agweddau o’r gorffennol yn gallu cael eu cynrychioli a’u dehongli
mewn gwahanol ffyrdd, ac mae hynny’n dylanwadu ar ein ffordd o edrych ar yr hyn sydd yn digwydd yn y presennol. Dyna pam mae’n bwysig i ni ystyried safbwyntiau a phrofiadau pobloedd frodorol Patagonia hefyd.

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Pam mae’n rhaid parchu cynefin, hanes a diwylliant pob gwlad a’i phobl?
  • Pam mae’n bwysig gwrando ar safbwyntiau gwahanol ar hanes neu stori?
  • Beth yw colled a sut mae’n effeithio ar bobl?
  • Beth yw annhegwch a sut mae’n effeithio ar bobl?

Syniadau am weithgareddau

Syniad 1

Nod: Ymchwilio i hanes pobloedd Tehuelche, Mapuche a Mapuche Tehuelche yn nhalaith Chubut ac ystyried sut mae’r gorffennol yn dylanwadu ar y presennol.

Gweithgaredd: Mae'r gelf fideo “TAIÑ MÜLEKAN - Ein Presenoldeb” (sydd yn rhan o Dad-fapio’r orchest) yn archwilio agweddau ar y berthynas rhwng pobloedd frodorol Patagonia a’r gwladfawyr Cymreig yn y 19eg ganrif. Awgrymir bod y disgyblion yn trafod y gelf fideo cyn mynd ati i greu gwaith collage person brodorol o Chubut a pherson brodorol o Gymru yn y presennol gan gynnwys y nodweddion isod. Ym mha ffyrdd defnyddir y dull collage er mwyn cyflwyno’r gorffennol a’r presennol ar yr un pryd? Beth yw effaith/effeithiau’r dechneg honno ar y gynulleidfa?

Dylai gwaith collage y disgyblion gael ei seilio ar waith collage yr arlunydd Nadia Pissano Paileman. Yn ôl yr arlunydd, mae’r gwaith yn ymwneud â “taith synhwyraidd, lle bydd y lliwiau, y dirwedd, yr aroglau a llafaredd yr hanes yn ffurfio cynnyrch gweledol allan o ddelweddau’r gorffennol diweddar a’r presennol”. Unwaith y bydd y collages wedi'u cwblhau, bydd disgyblion yn cael eu gwahodd i rannu eu gwaith gyda gweddill y grŵp ac egluro'r rhesymau dros eu dewisiadau. Gall hyn gynnig cyfleoedd iddynt fyfyrio ar ymsefydlu a'i effeithiau ar bobloedd frodorol, yn ogystal â sut maen nhw wedi gwrthsefyll hyd at y presennol.

Syniad 2

Nod: Trafod a mynegi barn am rythmau, iaith, offeryn cerdd, y cyfansoddiad a’r geiriau. Gellir creu symudiadau i fynd â’r gân.

Gweithgaredd: Mae’r gân ‘Del mismo río’ [O’r un afon] gan Pablo Rosas yn rhan o berfformiad Puel Willi Mapu Mew. Canir y gân yn yr iaith Mapudungun (ynganer: mabwdwngwn), sef iaith y bobl Mapuche. Awgrymir
bod disgyblion yn gwrando ar y gân (sydd yn dechrau ar funud 8:00 ac yn para tan funud 11:15) a thrafod y rhythm, yr iaith, yr offerynnau cerdd, y cyfansoddiad a'r geiriau. A oeddent wedi dod ar eu traws o'r blaen? Ydyn nhw'n debyg i unrhyw beth mae’r disgyblion yn gyfarwydd ag ef? Sut mae'r gân yn gwneud iddyn nhw deimlo? Gellir annog y disgyblion i greu symudiadau i fynd gyda'r gân.

Dyma’r cyfieithiad Saesneg o’r darn a ganir yn y recordiad:

Rwy’n dod o'r afon dryloyw iawn hon
O gorwynt sy’n rhwygo’r canol
O gerrig du a glannau tawel
Yn crwydro dros fryniau a ffermydd.
Rwy’n dod o'r afon hon ac mae’r afon yn perthyn i mi.

Rwy’n dod o'r afon hon ac mae’r afon yn perthyn i mi.
Rhoddais i ti fy ngherrig, y rhai glanaf
Rhyddheaist dy obeithion i'r awyr
Criaist ti’r glaw a chelu
cariad a siom.

Rwy’n dod o'r afon hon ac mae’r afon yn perthyn i mi.
Rwy’n dod o'r afon hon ac mae’r afon yn perthyn i mi.

Rwy’n eistedd ymhlith tamarisgiau.
Does dim aros yn fy meddyliau,
ond mi fydd hi’n braf os doi di yn ôl,
edrych ar ein gilydd wyneb i wyneb yn yr afon,
yr afon ddu.

Rwy’n dod o dy afon hon a thithau o fy un i.
Rwy’n dod o'r afon hon ac mae’r afon yn perthyn i mi.

Syniad 3

[yn dilyn trafodaeth am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn a deall effeithiau ar bobl frodorol o Gymru]

Nod: Deall effeithiau ar bobl frodorol Tehuelche, Mapuche a Mapuche Tehuelche yn sgil sefydlu talaith Chubut, Patagonia.

Gweithgaredd 3a: Darllen y testun isod gan Agustín Pichiñan (sydd yn rhan o Atgofion a straeon hynafiaid tiriogaeth y Mapuche) a chreu cyflwyniad (Google Slides/Canva/Adobe Express) gan gymharu safbwyntiau’r gwahanol grwpiau o bobl ynghylch ymsefydlu talaith Chubut. Sut datblygodd y broses o safbwynt y Cymry? Beth oedd safiad gwladwriaeth yr Ariannin? A beth am brofiadau’r bobloedd Tehuelche, Mapuche a Mapuche Tehuelche?

“Dysgom wrth ein cyndeidiau fod teuluoedd lofche [cymuned] y Pichiñan wedi ymsefydlu yn Paso de Indios [canolbarth talaith Chubut] tua’r flwyddyn 1900, pan gawsom ein gyrru allan gan ymgyrchoedd milwrol diwedd y 19 eg  ganrif. Mae hanes swyddogol Chubut yn tawelu straeon y Mapuche ac yn gadael i eiriau fel ‘cynnydd’ a ‘gwladfawyr Cymreig’ atseinio; gwladfawyr yr oedd gennym gysylltiadau â nhw. Gyda chefnogaeth y Wladwriaeth, estynnwyd ffensys dros ein tiriogaeth gan ddod â darostwng, aflonyddu a gwahaniaethu atom.” Agustín Pichiñan.

Gweithgaredd 3b: Yn sgil yr uchod, gellir cyfeirio at y gân yn yr iaith Gymraeg ‘Dŵr’ gan Huw Jones. Beth yw neges y gân? Ydy’r neges yn debyg/wahanol i neges pobloedd frodorol Tehuelche, Mapuche a Mapuche Tehuelche ym Mhatagonia?

Syniad 4

[os nad yw’r dosbarth wedi trafod Capel Celyn/Cwm Tryweryn eto

Nod: Darllen proffil Agustín Pichiñan (sydd yn rhan o Atgofion a straeon hynafiaid tiriogaeth y Mapuche) gan roi sylw i’r hyn sydd yn bwysig iddo ar ddiwedd y darn.

Gweithgaredd: Creu proffil unigol yn seiliedig ar broffil Agustín Pichiñan gan ganolbwyntio ar: Beth sy’n bwysig i ti a dy deulu? Beth sy’n werth brwydro amdani, yn dy farn di? Pa ddarn o hanes dy deulu byddet ti’n hoffi i bobl ei gofio yn y dyfodol pell?

Syniad 5

Nod: Disgrifio golygfeydd tirwedd Nahuelpan, sef un o gymunedau Mapuche Tehuelche yn nhalaith Chubut, gan ddatblygu geirfa llunyddiaeth.

Gweithgaredd: Dewis llun o’r saith isod (sydd yn rhan o Nahuelpan: Cofio, troi allan a brwydro). Arsylwi yn fanwl ar dirwedd Nahuelpan, a thrafod y lluniau gan ddisgrifio’r cynefin. Gellir sôn am oleuo, tirwedd, saethiad
agos/pell, awyrgylch, anifeiliaid, lliwiau, cysgod, amlinelliad, ac yn y blaen, a defnyddio ansoddeiriau disgrifiadol i gymharu tirwedd Nahuelpan gyda Chymru. Gall disgyblion ddisgrifio’r lluniau ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gwahodd y disgyblion i animeiddio llun gydag app/deallusrwydd artiffisial; e.e. tirwedd yn newid gyda’r tymhorau, neu’r haul yn machlud a gwawrio. Gall disgyblion greu cân sy’n dilyn arddull y gân ‘Del mismo río’ neu ddewis cân offerynnol i’w gwrando yn y cefndir gyda’r animeiddiad.

Meysydd dysgu a phrofiad

Bydd taith y dysgwyr yn deillio o’r Cwricwlwm i Gymru a’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Cânt eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.

Dyniaethau

  • Dysgu am y gorffennol a deall ei berthynas â'r presennol.
  • Dadansoddi a deall fersiynau gwahanol o’r hanes, wedi eu seilio ar ffynonellau gwahanol (yn cynnwys rhai sydd wedi eu distewi), a’u dehongli mewn ffordd addas a theg.
  • Ysgogi ymholi a darganfod cyd-destun byd eang.
  • Magu’r gallu i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.
  • Datblygu dealltwriaeth o ddehongliad hanesyddol a sgiliau ymdrin â ffynhonnell.
  • Adnabod bod gwahaniaeth rhwng dymuniadau, anghenion a hawliau, a deall bod anghyfiawnder ac anghydraddoldeb yn bodoli o fewn cymdeithasau.
  • Deall bod ystod o ffactorau yn dylanwadu ar ymddygiad, gweithredoedd a phenderfyniadau pobl, ac adnabod canlyniadau gweithredoedd a’r modd y mae’r rhain yn effeithio ar faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Lles

  • Gwerthfawrogi gall canfyddiadau o wirionedd yn gallu amrywio o un unigolyn i’r llall, a pharchu pobl o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol.
  • Adnabod bod digwyddiadau a phrofiadau yn y gorffennol yn effeithio ar feddyliau, teimladau a gweithredoedd.
  • Dod i ddeall sut a pham mae profiadau yn effeithio ar bobl, a dangos empathi tuag at eraill.
  • Datblygu dealltwriaeth bod gwerthoedd, agweddau a hunaniaeth yn cael eu siapio gan wahanol grwpiau a dylanwadau.

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa.
  • Dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol.
  • Galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
  • Ffurfio a mynegi hunaniaeth bersonol, gymdeithasol a diwylliannol.
  • Edrych ar waith o ddiwylliannau a chymdeithasau amrywiol, gan ddysgu am eu dylanwadau, eu hanesion a’u heffaith.

Adnoddau

Mae'r ffotograffau yma o dirwedd Nahuelpan wedi'u darparu diolch i Jenifer Paola Nahuelpan, Luisa Ayleen Suarez a Gina Jara o'r prosiect ‘Nahuelpan: Cofio, troi allan, a brwydro’.