Symud i'r prif gynnwys

Llun pennawd: Diego Colinamun ©

 

PROSIECT: Dad-fapio’r orchest: ymgais i ddatgymalu’r hanes swyddogol a darnio’r disgwrs trefedigaethol gan gyflwyno mapio cymdeithasol fel arf ymchwil a chreadigaeth gelfyddydol

 

 

 

Ac ie, ni oedd y cyntaf,

ar ôl yr indiaid,

i ddod wyneb yn wyneb â’r tir hwn,

i’w fesur mewn camau, nid mewn varas, 

i ryfeddu gyda syfrdan swil yr arloeswr

 

María Julia Alemán de Brand (bardd o Esquel)

 

Ein cynnig fel grŵp ymchwil creadigol Mapuche yw i ddadlau a chyflwyno tystiolaeth ynghylch y groesffordd a ddaw rhwng hanes swyddogol yr “orchest” Gymreig a’n pobl Mapuche Tehuelche yn nyffryn isaf Afon Camwy. Mae colli hunaniaeth fel pobl y diriogaeth hon wedi dileu atgofion a hynny’n enghraifft arall o bolisi anghofio. A ninnau, ble oedden ni?

Dwy ffurf wahanol ar ymsefydlu, dwy resymeg wrth feddwl am y person arall a’i hunaniaeth. Pa ran a chwaraeodd gwladwriaeth Yr Ariannin yng nghyfnod sefydlu’r Wladfa Gymreig? Mae disgwrs swyddogol ddoe yr un peth â’r un heddiw: parhad y Wladwriaeth Archentaidd gychwynnol a’i strategaeth ehangu ffiniau.

Nod ein gwaith yw dad-fapio ddisgwrs swyddogol hanes, yr hwn sy’n amsugno twristiaeth i werthu Cymru fach, tramoreiddio ein pobl a’n pardduo wrth ein dadfeddiannu o’n hunaniaeth. Trwy gyfrwng cynnyrch artistig a pherfformiad clyweledol --sy’n cynnwys cyfresi montage bychain fel rhwydweithiau o fapiau rhastr, yr hanes a wadwyd--, ceir sôn am sut y cawsom “ein gollwng” yn sydyn o fap Chubut ac, yn y rhethreg gyfredol, sut yr ydym yn parhau i feddiannu’r cyrion hynny a fewnblannwyd gan yr hanes swyddogol.

Celf fideo: TAIÑ MÜLEKAN - Ein presenoldeb

 

Taiñ Mülekan, ein presenoldeb, ein bywyd, ein bod, ein bodolaeth, ein rhag-fodolaeth, ein HAROS; rhywbeth nad oes llawer o sôn amdano. Mae’r darn hwn o gelfyddyd clyweledol yn crynhoi ein hargraffiadau a’n dehongliadau beirniadol o’r berthynas rhwng y gwladfawyr Cymreig a phobl frodorol y Tehuelche a Mapuche, a rôl Gwladwriaeth Yr Ariannin. Gyda chyfraniadau gan Liliana Ancalao a darnau o’i cherdd ‘Para que drene esta memoria’ [Tynnu hylif y cof]; yr hanesydd Matías Jones (sy’n codi problemau ynghylch stori dyfodiad y Cymry a ffurfio’r Wladfa); y canwr, cyfansoddwr, ac awdur Celedonio ‘Chele’ Díaz (sy’n dod â Juan Salvo i’r cof); a’r actores a pherfformwraig Andrea Despó Cañuqueo, bwriad y gwaith hwn yw datgymalu naratifau trefedigaethol a chenedlaethol, gwneud ein hunain yn weladwy a mynegi ein safbwyntiau a’n teimladau ninnau. Gyda hyn, daw’r lleisiau a dawyd a straeon a gofodau’r gorffennol yn bresennol trwy’r weithred berfformiadol o fod yn y mannau hynny, ymweld â nhw a dadorchuddio’r hanes sydd wedi goroesi dan groen yr hil-laddiad. Ymgnawdolwn trwy eiriau, ffarweliwn â’r poen yn nawns y purrun, a chysylltwn gyda phwy ydym ni, gyda’r tir, a chyda ein kuifikecheyem [cyndeidiau].

Gellir darllen yr ‘Adroddiad a myfyrdodau ar y prosiect creadigol ‘Dad-fapio’r orchest’ (ymchwil, troedio a gwrthdroedio)’ yma.

Gweithiau Collage (2024)

Lluniwyd y gweithiau collage hyn gan Nadia Pissano Paileman yn dilyn taith ymchwil a hefyd yn dilyn darlithoedd a sgyrsiau’r hanesydd Matías Jones a’r bardd-gantores Chele Díaz, y ddau yn byw yn Nhrevelin. Mae’r delweddau’n mynd â ni yn ôl at ‘ein hanes, ein hunaniaeth Tehuelche Mapuche yn Puel Mapu’ ar ôl taith synhwyraidd, lle bydd y lliwiau, y dirwedd, yr aroglau a llafaredd yr hanes yn ffurfio cynnyrch gweledol allan o ddelweddau’r gorffennol diweddar a’r presennol.

 

Ester Andrea Despó Cañuqueo

Rwy’n byw yn Nhrelew (Chubut) Puelmapu, ac rwy’n arddel hunaniaeth Mapuche Tehuelche, hunaniaeth a etifeddwyd gan fy neiniau. Rwy’n ddramodydd, actores Mapuche, amelkafe a pherfformwraig. Mae gen i radd o Ysgol Celfyddydau Cain Manuel Belgrano yn Neuquén. Roeddwn yn rhan o’r grŵp theatr annibynnol Metateatro de Trelew (1997–2013). Rwy’n aelod o Cátedra Abierta de Pueblos Originarios, Memoria y Recuperación [Grŵp Ymchwil Agored Pobloedd Frodorol, Cofio ac Adfer] Prifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco (UNPSJB) yn Nhrelew. Rwy’n athrawes theatr mewn ysgolion uwchradd ac yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Drama ISFDA 805. Rwyf hefyd yn cynnal gweithdai theatr yn ardaloedd 28 de Julio (ardal wledig) a Dolavon. Trwy fy nghynyrchiadau creadigol artistig a’m gwaith addysgu rwy’n ceisio defnyddio safbwyntiau rhyngddiwylliannol a dad-drefedigaethol, a gwerthfawrogi diwylliannau brodorol. Gyda’r ddrama Mapuche un person Sueños de agua [Breuddwydion dŵr] cynrychiolais Chubut yn y Fiesta Nacional del Teatro [yr Ŵyl Theatr Genedlaethol], ac rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o wyliau a chyfarfodydd theatr cenedlaethol a rhyngwladol. Bellach, rwy’n parhau i wneud gwaith ymchwil esthetig ar theatr Mapuche ym meysydd corff, cof a thiriogaeth.

Nadia Paz Pissano Paileman

Nadia Pissano Paileman ydw i, o ddinas Trelew. Cefais fy magu gan fy mam-gu, Doña Luisa Paileman, felly ces i fy magu ymhlith straeon ac ymysg merched crwydrol. Yn 2015, dechreuais gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi athrawon ar ryngddiwylliannaeth iaith yn y celfyddydau, ac yno cyfarfûm â’r athrawes Andrea Despó Cañuqueo, a dyna lle cychwynnodd fy nghyfle i gymodi a chydnabod. Mae bod yn Mapuche a chael eich geni mewn ardaloedd trefol, gyda theulu a wahanwyd a straeon am ferched yn gorfodi priodi mewnfudwyr Eidalaidd er mwyn goroesi, yn llwybr poenus i’w gerdded ac yn dasg angenrheidiol. Yn fy stori, bu dylunio graffeg yn gymorth i mi allu cwestiynu naratif yr hyn sydd fel arfer yn cael ei ystyried yn ‘normal’, a hefyd i lunio fy map fy hun ar sail ymchwil hanesyddol o’r mannau lle ganed teulu fy mam, yn San Antonio Oeste, yn Sierra Paileman. Am hynny, rwyf wedi cymryd rhan weithredol yn y Cátedra Abierta de Pueblos Originarios, Memoria y Recuperación ym Mhrifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco (UNPSJB), Trelew. Mae’n hollbwysig imi allu parhau i wau’r we atgofion hon a gwirionedd a chyfiawnder oherwydd roedd ein pobl ni yn y tiriogaethau hyn cyn i’r Wladwriaeth genedlaethol osod ffiniau arnom. Felly, mae mapio cymdeithasol yn fy ysgogi; mae’r siapiau yn yr adrodd perfformiadol yn gallu ail-ffurfio gofod cyhoeddus, mapiau sydd fel ein cyrff ni ein hunain, fel cerddi cymdeithasol a luniwn wrth gerdded.

Lleoliadau

Lleoliad hanesyddol ‘Malacara’s Leap’.
Lleoliad hanesyddol ‘The Valley of the Martyrs’. 
Carreg goffa y Merthyron. Las Plumas (Chubut).
Gaiman: sgwâr Julio Argentino Roca, carreg goffa gorchfygu America.
Porth Madryn: Punta Cuevas. Tô Amgueddfa’r Glaniad. Cofeb y Cymry. Monumento al Indio.

Testunau a ddefnyddiwyd

Ancalao, Liliana (2023). “Para que drene esta memoria”. En Gutxamkayaiñ, chachay, papay/ Conversaremos, anciana, anciano, queridos. Editorial Universidad de Guadalajara, Colección Literaturas en Lenguas Originarias de América Miguel León Portilla.
Díaz, Celedonio “Chele” (2010). “El otro viaje de Juan salvo”. En Adriel de un extremo a otro: Cuentos de la Patagonia mágica. Editorial Musiquel [adapted story, based on the story told by a Tehuelche Mapuche to the author].
Jones, Matías. (2009). De galeses y tehuelche: El pacto fundacional de una historia oficial chubutense. XVIII Congreso de Historia de la Patagonia Argentino-Chilena, Trevelin, Chubut.
Matthews, Abraham (2004). Crónica de la Colonia Galesa de la Patagonia. Editorial Alfonsina [detholiad o lythyron].

Cerddoriaeth

"Trutruca y kultrun", Cecil Gonzalez.
"Malowoñon", Chemu Am Mapuche Pigein.
“Tayül kaila milelo”, wedi’i pherfformio gan Luna Navarro ac Andrea Despó Cañuqueo.
"Caminos sonoros de la Patagonia", [Llwybrau soniarus Patagonia] Mario Silva.
"Canción para volver a la tierra", Chele Diaz. 
"Kaani", Choike factory.
Ülkantun "Yelton" de Manuela Thomas, wedi’i pherfformio gan Luna Navarro ac Andrea Despó Cañuqueo.

Llyfryddiaeth (yn cynnwys y lluniau a ddefnyddiwyd) 

Caviglia, Sergio Esteban (2015). 150 años de Rawson: La primera colonia permanente del Estado nacional en el Chubut. Rawson: Ministerio de Educación del Chubut.
Diarios de la época 1870 a 1885.
Dumrauf, Clemente (1996). Historia del Chubut. Buenos Aires: Plus Ultra.
Evans, John D. y Evans, Clery A. (1999). John Daniel Evans “El molinero”: Una historia entre Gales y la Colonia 16 de octubre. Rawson: Dirección de Impresiones Oficiales.
Foresti, Carlos (2003). Una frontera lejana: La colonización galesa del Chubut. Fotografías de John Murray Thomas, Henry E. Bowman, Carlos Foresti y otros. 1865-1935. Buenos Aires: Fundación Antorchas. 
Fotos antiguas del Chubut. Facebook.
Gobernación de la Pcia del Chubut, Secretaría de Cultura de la provincia, Consejo Federal de Inversiones (CFI). Galeses y Tehuelches: Historia de un encuentro en Patagonia
Huenchumil, Paula. ¿Qué es el wallmapu? Voces mapuche lo explican. Available at: https://www.biodiversidadla.org/Documentos/Que-es-el-Wallmapu-Voces-mapuche-lo-explican 
Nagy, Mariano y Papazian, Alexis (2011). El campo de concentración de Martín García: Entre el control estatal dentro de la isla y las prácticas de distribución de indígenas (1871-1886). Corpus: Archivos Virtuales de la Alteridad Americana, 1(2), https://doi.org/10.4000/corpusarchivos.1176
Neyens, Arlette. "Camaruco" [Choyke purrun image] (https://arletteneyens.wordpress.com/2013/09/17/el-camaruco/)
Pérez, Liliana (2015) Keu-kenk: Política indígena en la Patagonia 1865-1956. Trelew: Remitente Patagonia.
Pérez, Liliana (2022). Lelek aike: Del destierro a la comunidad. Trelew: Remitente Patagonia.
Pérez, Pilar (2022). Malón de ausencia: Historia hegemónica y relatos en disputa en torno a la “Conquista del Desierto”. Coordenada: Revista de Historia Local y Regional, 9(1).
Perrone, Jorge (1974). Diario de la historia argentina. Buenos Aires: Latitud 34.Raone, Juan Mario (1969). Fortines del desierto. Buenos Aires: Revista y Biblioteca del Suboficial.
Stella, Valentina (2019). Tensiones en torno al reconocimiento indígena: La lucha por ser mapuche y tehuelche en la costa y valle de Chubut. Cuadernos de Antropología Social, 59, 49-66. Available at: https://www.redalyc.org/articulo.oa?id=180962612004.
Secretaría de Cultura de la Nación, Dirección Nacional de Artes Visuales, Subsecretaría de Cultura y Educación de la Provincia de Chubut (1987). Los galeses en Chubut: Fotografías. 
Torne, Belisario. Imagen del Camaruco Nahuelpan. https://x.com/belisariopolis/status/1303369763482107908
Vignati, Milcíades Alejo (1942). Iconografía Aborigen: Los Caciques Sayeweke, Inakayal y Foyel y sus Allegados. Revista del Museo de La Plata, 2(10), 13-48.
Williams, David (2007). Entre telones y tolderías. Trelew: Jornada. 

Diolchiadau

Florinda Huentecoy (Aldea Epulef), Lucas Urtizberea ac Eriberta Arce (Las Plumas), Lautaro Cárdenas Despó, Matías Jones (Trevelin), Liliana Ancalao (Comodoro Rivadavia), Chele Díaz (Trevelin), Biblioteca Agustín Álvarez de Trelew,  Luna Navarro Despó a Javier Soto. Lucia Ruiz o Dirección de Cultura de Gaiman [Swyddfa Ddiwylliannol Gaiman], Fabio González o Museo Histórico Regional de Gaiman [Amgueddfa Hanes Rhanbarthol Gaiman] am y deunydd darllen a’r mapiau.