Symud i'r prif gynnwys

 

Yn rhinwedd ei swydd fel ysgrifennydd personol Lloyd George fe aeth Frances Stevenson gydag ef i Gynhadledd Heddwch Versailles, lle trafodwyd a chytunwyd ar delerau swyddogol terfyniad y Rhyfel Mawr. Yr oedd Frances yn Versailles rhwng Ebrill a Mehefin 1919, ac yno fe ysgrifennodd nifer o lythyrau at ei theulu yn disgrifio cynnydd y trafodaethau, ei bywyd cyffredinol yn y gynhadledd yn ogystal â’r gweithgarwch cymdeithasol yno. Y mae’r llythyrau’n cynnig cipolwg diddorol o’i barn ynghylch trafodaethau’r gynhadledd; er enghraifft, yn ei thyb hi roedd agwedd y Ffrancwyr yn filain ac yn afresymol, ond fod hynny'n deillio o'u profiadau yn Rhyfel 1871.

Dengys y llythyrau gwahaniaethau ym marn Frances a Lloyd George am delerau’r cytundeb. Ymgeisiodd Lloyd George i sicrhau na thriniwyd yr Almaenwyr yn or-llym, a hynny er mwyn osgoi anghydfodau pellach yn y dyfodol. Ym mis Ebrill, ysgrifennodd Frances am ei disgwyliadau hithau o’r gynhadledd: “it will be a good peace, not one that will cause another war in 10 or 20 years’ time.” Fodd bynnag, wrth i’r trafodaethau fynd yn eu blaenau, fe ddaeth Lloyd George yn anfodlon â thelerau’r cytundeb. Yn ôl Frances, cyfeiriodd ato fel “a terrible document” a nododd na chyflwynwyd cytundeb o’r fath ‘to any nation since Carthage’. Yn yr un llythyr serch hynny; a ddanfonwyd ym Mai 1919, ceir disgrifiad tra wahanol gan Frances ei hun o’r trafodaethau a fyddai’n arwain at ‘a just peace, stern but not vindictive’.

Er gwaethaf ei hoptimistiaeth, wrth i’r misoedd fynd yn eu blaenau, dechreuodd Frances ofidio hefyd am hyd a pharhad y trafodaethau.  Mewn llythyr, a ddanfonwyd ar ddechrau Mehefin 1919, disgrifiodd sgwrs a gafodd dros ginio â Chadfridog a benodwyd i Ferlin. Cyfeiriodd at ei bryderon ynghylch sefyllfa enbyd yr Almaen. Roedd Frances yn ofni y byddai oedi wrth arwyddo’r cytundeb yn peryglu’r holl broses. Nododd: “Everything is at a standstill until the people know that the Peace is signed, and if Germany goes Bolshevik there will be no one to sign the Treaty with”.

Nid oedd pryderon Frances yn ddi-sail. Er yr arwyddwyd Cytundeb Versailles ar yr 28ain o Fehefin 1919, bu’n rhaid hefyd cytuno ar gyfres arall o gytundebau er mwyn dygymod â holl broblemau’r Rhyfel Mawr. Ni lofnodwyd y cytundeb olaf tan 1923.