Symud i'r prif gynnwys

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi gweithio ar y cyd ag Amgueddfa Cymru i gynhyrchu a chyhoeddi adnoddau dysgu digidol am y Rhyfel Byd Cyntaf ar Hwb. Mae'r rhain yn cynnwys miloedd o eitemau unigol wedi eu pecynnu yn themau. Gall pobl ifanc yng Nghymru bellach ddysgu am y Rhyfel Byd Cyntaf a Chynhadledd Heddwch Paris o safbwynt Cymreig, gan ddefnyddio adnoddau cynradd ac eilaidd sy'n dod o Gymru'n bennaf.

Cynhyrchwyd yr adnoddau dwyieithog hyn i gefnogi’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, ac maen nhw’n canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Maen nhw hefyd yn cynnwys deunydd i gefnogi dysgu Hanes i Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru.