Symud i'r prif gynnwys

 

Mae'r 3292 o lythyron gan David Lloyd George at ei frawd William George, cyfreithiwr yng Nghricieth, yn rhan o archif William George a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1989. Maent yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1886 a 1943, er mai nifer fechan sydd o'r blynyddoedd wedi 1917. Ysgrifennwyd llawer o'r llythyron cynnar o wahanol rannau o Gymru, tra ysgrifennwyd y mwyafrif o'r llythyron diweddarach, pan oedd Lloyd George yn ei anterth, o San Steffan. Maent yn gymhares i'r gyfres hir o ychydig dros 2,000 o lythyron, 1886-1936, a ysgrifennodd Lloyd George at ei wraig gyntaf y Fonesig Margaret. Prynwyd y rhain gan y Llyfrgell yn 1969 ac fe'u dynodwyd yn LlGC Llsgr 20403-42 (weithiau cyfeirir at y rhain fel grŵp Brynawelon).

Ar y cyfan mae'r llythyron a ysgrifennodd Lloyd George at ei frawd yn fwy manwl, mwy dadlennol a mwy gwleidyddol eu naws na'r llythyron at y Fonesig Margaret. Yr oedd William George ei hun yn cymryd llawer o ddiddordeb yn y bywyd gwleidyddol ac yn mwynhau'r clebran gwleidyddol, a oedd yn aml yn gyfrinachol iawn, yn llythyron ei frawd hŷn. O'r herwydd, roedd hefyd yn fwy na pharod i weithio fel asiant gwleidyddol iddo o fewn Bwrdeistrefi Caernarfon. Nid oes syndod bod Lloyd George yn ysgrifennu at ei frawd yn rheolaidd, yn aml yn ddyddiol, ac ar rai achlysuron ddwy neu hyd yn oed dair gwaith y dydd. Ysgrifennai gan wybod yn iawn y darllenid ei epistolau yn eiddgar gan ei Yncyl Lloyd hefyd.

Mae'r llythyron yn arbennig o gyflawn ar gyfer y cyfnod cyn apwyntio Lloyd George i'r cabinet yn Llywydd y Bwrdd Masnach ddiwedd 1905. Wedi hynny, y mae llawer ohonynt yn nodiadau byrion, wedi eu sgriblo'n gyflym, ond â'r fantais amhrisiadwy o roi ymateb uniongyrchol yr awdur i ddigwyddiadau fel yr oeddent yn taro. Weithiau roedd y rhain yn ddigwyddiadau cenedlaethol o bwys mawr. Y mae newyddion gwleidyddol a newyddion teuluol yn cyd-gymysgu'n hawdd wrth i'r awdur newid yn rhwydd rhwng y Saesneg a'r Gymraeg, efallai er mwyn trechu llygaid busneslyd y gwasanaethau diogelwch.

Y mae llawer o'r llythyron cynnar yn trafod achosion cyfreithiol mewn cryn fanylder a materion eraill yn ymwneud â busnes cyfreithiol y teulu Lloyd George and George. Elw o'r busnes a alluogai'r gwleidydd ifanc uchelgeisiol i aros yn San Steffan cyn y dechreuwyd talu aelodau seneddol yn 1911. Daw llawer o'r trobwyntiau yng ngyrfa wleidyddol Lloyd George yn fyw trwy'r llythyron, a cheir golwg newydd ar wleidyddiaeth fewnol Bwrdeistrefi Caernarfon, rôl Lloyd George yn ystod Rhyfel y Boer a'i ymgyrch yn erbyn trefniadau Deddf Addysg Balfour 1902. Mae llythyron diweddarach yn cyfeirio at apwyntiad Lloyd George yn Llywydd y Bwrdd Masnach a'i ddyrchafiad i fod yn Ganghellor y Trysorlys yn Ebrill 1908. Mae llawer o gyfeiriadau hefyd at baratoad, cyflwyniad a chanlyniad 'Cyllideb y bobl' 1909, ysbryd milwriaethus y mudiadau llafur a'r suffragettes yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif, a digwyddiadau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfeirir at waith Lloyd George gyda'r Weinyddiaeth Arfau a'r Weinyddiaeth Ryfel mewn nifer o nodion byrion, yn ogystal â'i apwyntiad yn Brif Weinidog pan oedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth yn Rhagfyr 1916. Mae'r llythyron yn llawn o gyfeiriadau at gyfoeswyr, yn arbennig gwleidyddion Rhyddfrydol eraill. Datgela'r llythyron hefyd lawer ynglŷn â pherthynas Lloyd George ag aelodau o'i deulu.

Caniatawyd mynediad at y papurau i Herbert du Parcq cyn y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd yn ymchwilio'i Life of David Lloyd George (4 cyfrol, Llundain, 1912-22). Maent wedi'u defnyddio'n fwyaf helaeth gan William George yn My brother and I (Llundain, 1958), a chan W. R. P. George yn ei The Making of Lloyd George (Llundain, 1976) a Lloyd George: Backbencher (Llundain, 1983). Ceir amlinelliad defnyddiol o archifau Lloyd George yn J. Graham Jones, Lloyd George Papers at the National Library of Wales and other repositories (Aberystwyth, 2001).