Symud i'r prif gynnwys

Yn y pedwar llyfr ffoto isod ceir cofnod o fywyd David Lloyd George hyd at y 1920au.

Yn gyntaf, ceir llyfr ffoto Maesygweren, sy’n dyddio tua 1918. Cymhwyswyd yr ail lyfr ffoto gan ei wraig, y Fonesig Margaret Lloyd George, ac ynddo ceir lluniau o’u bywyd teuluol rhwng 1919 a 1920. Mae’r ddau lyfr ffoto olaf yn perthyn i gasgliad Olwen Carey Evans ac yn cofnodi ei ymgyrch etholiadol ym 1910. Ceir ynddynt hefyd delweddau o gyfnod Lloyd George fel Prif Weinidog, yn enwedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.