Symud i'r prif gynnwys

Dyddiadur 1886 David Lloyd George

 

Daw'r dyddiadur hwn o gasgliad papurau William George, brawd David Lloyd George, a brynwyd gan y Llyfrgell yn 1989. Mae'r archif bwysig hon yn cynnwys dros 3000 o lythyrau gan Lloyd George at ei frawd, yn ogystal â chyfres o 11 dyddiadur a gadwyd ganddo ym mlynyddoedd cynnar ei yrfa wleidyddol.

Mae Dyddiadur 1886 yn cynnwys cofnod o'i fywyd personol a'i yrfa wleidyddol. Mae'n disgrifio ei araith gyhoeddus gyntaf - ym Mlaenau Ffestiniog ar 12 Chwefror - ac yn disgrifio'i weithgareddau a'i uchelgeisiau gwleidyddol mewn cryn fanylder. Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau diddorol at ei garwriaeth gyda Margaret Owen o Fynydd Ednyfed, Cricieth, a ddaeth yn wraig iddo maes o law.

Gallwch weld gweddill cofnodion catalog dyddiaduron Lloyd George ar Archifau a Llawysgrifau LlGC.