Symud i'r prif gynnwys

Ganwyd Albert James Sylvester (1889-1989) yn Swydd Stafford i ffermwr-denant o incwm cymedrol. Yn ei arddegau hwyr dechreuodd fynychu dosbarthiadau gyda’r nos i ddysgu ysgrifennu llaw-fer a mudodd i Lundain yn 21 oed i weithio fel stenograffydd llawrydd.

Dechreuodd Sylvester ei yrfa yn y sffêr gwleidyddol fel ysgrifennydd llaw-fer yn swyddfa Maurice Hankey. Yn ddiweddarach, apwyntiwyd Sylvester yn Ysgrifennydd Personol Hankey, a’r safle hwnnw arweiniodd at ei swydd gyffelyb gyda Phrif Weinidog clymblaid 1921, David Lloyd George. Er i’w gyflogwr golli’r arweinyddiaeth yn 1922, byddai Sylvester yn parhau fel ei Brif Ysgrifennydd Personol tan 1945, pan fu farw Lloyd George.

Yn ystod ei yrfa, ysgrifennodd Sylvester gofnodion trylwyr ar weithgarwch a barn David Lloyd George. Bu’n cadw dyddiadur manwl, ar ffurf law-fer Pitman yn bennaf. Yn 1947, cyhoeddodd A J Sylvester ei gyfrol enwog The Real Lloyd George, a seiliodd ei gynnwys ar ei ddyddiaduron personol ei hun.

Yn rhinwedd ei swydd cydlynodd A J Sylvester lawer iawn o deithiau tramor a Phrydeinig Lloyd George a chofnododd rai ohonynt ar ffurf ffotograffau. Yn y galeri isod ceir casgliad ohonynt. Cofnododd Sylvester daith Lloyd George i Frasil ym mis Rhagfyr 1927 ynghyd â'i ymweliadau â rhannau o Ewrop yn 1929. Ym mis Ionawr y flwyddyn honno fe hwyliodd ar griws ar hyd yr arfordir o Gannes i Naples, teithiodd hefyd mewn car drwy Wlad Belg a Ffrainc i’r Llynnoedd Eidalaidd gyda’i wraig Margaret a’u plant Megan, Gwilym a’i wraig Edna. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys ffotograffau o daith Lloyd George i Foroco yn 1936 gyda Winston Churchill. Yn y lluniau diweddarach gwelir cofnod o Lloyd George yn Berchtesgaden, yr Almaen yn 1936 ac ymweliad ei Ysgrifenyddion â Churt yn 1941.

Gellir gweld cofnod Catalog Casgliad A J Sylvester ar Archifau a Llawysgrifau LlGC.

End of content

No more pages to load