Symud i'r prif gynnwys

Llogi eitem

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn benthyca eitemau o’i chasgliadau i arddangosfeydd dros dro yn y DU a thramor, ond yn bennaf i orielau ac amgueddfeydd yng Nghymru.

Fel arfer dylid gwneud ceisiadau am fenthyciadau o leiaf 6 mis cyn i’r arddangosfa agor. Rhoddir ystyriaeth i bob cais am fenthyciad cyn belled ag y bo’r lleoliad sy’n benthyca yn gallu cwrdd â’r gofynion a amlinellir yn y Telerau Cytundeb Benthyciad. Mae’r Llyfrgell yn gwneud pob ymdrech i fenthyca, ac eithrio lle mae argaeledd, cyflwr neu ddiogelwch y gwrthrych yn ein rhwystro rhag gwneud hynny.

Ni fyddwn yn codi tâl gweinyddu ar gyfer benthyciadau o fewn y DU, ond disgwylir i fenthycwyr dalu am unrhyw gostau paratoadol (gan gynnwys cadwraeth a phacio) a chostau teithio.

Os am wybodaeth bellach am ein trefn benthyg, cysylltwch gyda:

Y Swyddog Arddangosfeydd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY23 3BU
Ffôn: 01970 632 800
Ebost: arddangosfa@llgc.org.uk

Dogfennau perthnasol

Dolenni perthasol