Symud i'r prif gynnwys

Arddangosfa Barhaol

Oriel Hengwrt

Mae ‘Trysorau’ yn arddangos eitemau eiconig ac amrywiol o'n casgliad eang o archifau, llawysgrifau, darluniau, ffotograffau, mapiau, a deunydd sain a ffilm unigryw.

Mae’r eitemau yn yr arddangosfa hon yn drysorau oherwydd eu bod yn werthfawr, yn brin, yn hen, yn hardd neu’n eiconig, ac mae gan bob un ei hanes unigryw ei hun sy’n chwarae rhan arbennig yn stori Cymru.

Er ei fod yn arddangosfa barhaol, mae’r eitemau sy’n cael eu harddangos yn newid yn rheolaidd, i gyd-fynd â themâu newydd sy’n cael eu cyflwyno’n gyson.

Teithiwr Chwilfrydig: Thomas Pennant 300 Rhan o arddangosfa Trysorau
 
13.06.26 – 07.11.26

Yn naturiaethwr, hynafiaethydd a ‘theithiwr chwilfrydig’, roedd Thomas Pennant, sgweier Downing, Sir y Fflint, yn enwog ar draws Ewrop a thu hwnt yn ystod y ddeunawfed ganrif. Byddwn yn dathlu trichanmlwyddiant ei eni trwy arddangos rhai o’r enghreifftiau harddaf a mwyaf diddorol o’i waith yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Dyma gyfnod y chwyldro diwydiannol ym Mhrydain, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ei egni grymus a chynyddol mewn datblygiadau ym myd twristiaeth ac ym mherthynas dyn â byd natur. O gopi addurnedig swmpus y British Zoology i'r Teithiau yn yr Alban ac yng Nghymru, mae gwaith Pennant yn ymateb i’r newidiadau cyffrous hyn, gan amlygu natur gydweithredol ac egnïol y broses o’u creu.