Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
O'r darllediau cyntaf un yn 1923 pan ganodd Mostyn Thomas 'Dafydd y Garreg Wen' i bobl Caerdydd oedd yn gwrando ar setiau radio grisial, i lwyfannau ffrydio digidol ar alw, mae darlledu yng Nghymru wedi trawsnewid bywydau.
Mae'r arddangosfa Ar yr Awyr yn defnyddio technoleg ryngweithiol o'r radd flaenaf i ddangos rhai o uchafbwyntiau hanes darlledu yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf. Mae'n cynnwys digwyddiadau megis boddi Tryweryn, trychineb Aberfan ac agoriad y Senedd, ynghyd â chlipiau o raglenni eiconig megis SuperTed, Pobol y Cwm a Ryan a Ronnie. Ceir hefyd uchafbwyntiau o fyd cerddoriaeth, chwaraeon ac adloniant Cymru, ac o fywyd Cymreig yn gyffredinol.
Dewch i ymgolli'ch hun yn yr archif.