Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Er mwyn gallu archebu deunydd o'r Prif Gatalog i'w weld yn y Llyfrgell, rhaid cofrestru ar gyfer Tocyn Darllen.
Anogir defnyddwyr i archebu deunydd o flaen llaw bob tro lle mae hynny'n bosib. Mewn rhai achosion, mae rhybudd penodol yn hanfodol er mwyn cyrchu deunydd, oherwydd rhesymau cadwriaethol.
Anelir at gyrchu deunydd o fewn yr awr. Yr amser hwyraf ar gyfer archebu eitemau i'w gweld ar yr un diwrnod o Llun i Gwener yw 16:15.
Gall ceisiadau di-Gatalog gymryd hyd at 24 awr i'w cyrchu.
Nid yw’r Llyfrgell yn cyrchu deunydd ar ddydd Sadwrn, felly’n mae’n rhaid archebu unrhyw eitemau erbyn 16:15 dydd Iau yr wythnos cynt.
Gall ceisiadau gymryd hyd at 72 awr.
Gall ceisiadau gymryd hyd at 15 niwrnod.