Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
03.06.2019
Bydd arddangosfa Trysorau, sy'n cynnwys rhai o eitemau mwyaf hanesyddol ac unigryw Cymru yng Nglan-yr-afon, Hwlffordd, yn cael ei lansio'n swyddogol ar nos Iau, y 6ed o Fehefin 2019. Gall ymwelwyr â'r cyfleuster blaenllaw hwn ar lan afon y dref gael cip ar amryw o drysorau'r genedl, sy'n perthyn i gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r arddangosfa’n cyflwyno’r llyfr pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y Gymraeg, Beibl William Morgan o 1588, cyfieithiad cyflawn cyntaf y testun i’r Gymraeg. Un o drysorau eraill y genedl i’w weld yw sgôr a geiriau gwreiddiol 'Hen Wlad Fy Nhadau', a gyfansoddwyd yn 1856 gan y tad a'r mab Evan a James James.
Ymysg y deunydd gweledol y mae darn o waith Claudia Williams, yr arlunydd cyfoes, yn ogystal â delweddau eiconig o ddiwylliant Cymreig gan ffigyrau blaenllaw ym maes ffotograffiaeth: John Thomas, Geoff Charles a Philip Jones Griffiths. Bydd ymwelwyr â Trysorau hefyd yn cael cip ar baentiad gwreiddiol Turner, Castell Dolbadarn, sy’n rhoi mewnwelediad i sut gafodd y tirluniwr nodedig hwn ei ysbrydoli ar ei ymweliadau mynych â Chymru yn ystod y 1790au.
Mae Trysorau yn rhoi cyfle prin i’r cyhoedd gloddio’n ddyfnach i feddyliau rhai o awduron a beirdd mwyaf Cymru, gyda’r deunydd archifol sydd i’w weld yn cynnwys lluniad map o bentref Llareggub, lleoliad dychmygol y ddrama Dan y Wenallt, yn llaw Dylan Thomas ei hun. Mae copi gwreiddiol o awdl fuddugol Hedd Wyn, 'Yr Arwr', yn ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’ hefyd ymysg Trysorau’r Llyfrgell Genedlaethol yng Nglan-yr-afon.
Yn ogystal, bydd pedwar o eiconau i’w gweld fesul un yn ystod yr arddangosfa, gan gynnwys tair llawysgrif arwyddocaol: 'Llyfr Du Caerfyrddin', y llawysgrif gynharaf yn y Gymraeg; 'Cyfreithiau Hywel Dda', fersiwn Lladin goliwiedig o gyfreithiau brodorol y Cymry; a 'Llyfr Taliesin', sy’n cynnwys barddoniaeth hynaf Cymru i oroesi. Mae rhyw 40,000 o lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac maent yn ffurfio’r casgliad mwyaf cynhwysfawr o lawysgrifau Cymreig yn y byd. Casgliad Peniarth, sy’n cynnwys y tair llawysgrif i’w dangos yng Nglan-yr-afon, yw casgliadau llawysgrifau pwysicaf y Llyfrgell. Caiff y casgliad hwn o fri rhyngwladol ei gynnwys ar Gofrestr Cof y Byd UNESCO.
Y pedwerydd eicon i’w arddangos bydd Yny Lhyvyr Hwnn. Mae’n ffurfio rhan o gasgliad llyfrau prin cain y Llyfrgell Genedlaethol a dyma’r llyfr cyntaf erioed i’w argraffu yn y Gymraeg. Ysgrifennwyd Yny Lhyvyr Hwnn gan John Price a’i argraffu yn Llundain yn 1546. Dim ond un copi o’r gyfrol sydd wedi goroesi.
Canlyniad partneriaeth gyffrous yw’r oriel yng Nglan-yr-afon rhwng Cyngor Sir Benfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n galluogi i arddangosfeydd arbennig fel Trysorau ddod i Sir Benfro.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae ymestyn a gwella mynediad at ein casgliadau cenedlaethol yn flaenoriaeth bwysig. Trwy’r Trysorau, bydd ymwelwyr o Sir Benfro a thu hwnt yn gallu gweld amrywiaeth drawiadol o eitemau amhrisiadwy, eiconig a deniadol sydd wedi llunio hanes Cymru. Eiddo’r genedl yw ein casgliadau, ac rydym wrth ein boddau’n gallu cyflwyno’r detholiad hwn o’r Trysorau fel bod y cyhoedd yn gallu gwerthfawrogi cyfoeth ein treftadaeth a’n hanes.”
Meddai Paul Miller, Aelod Cabinet Cyngor Sir Benfro dros yr Economi, Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant:
“Mae’r oriel yng Nglan-yr-afon yn ganolfan o arwyddocâd cenedlaethol, ac rydym wrth ein boddau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n dod â chasgliad mor eiconig â’r Trysorau i’r sir.
“Yn dilyn llwyddiant ein harddangosfa agoriadol Kyffin Williams: Tir a Môr, a welwyd gan fwy nag 11,000 o ymwelwyr, rydym yn hyderus y bydd y Trysorau yn atyniad mwy fyth yn ystod misoedd prysuraf yr haf.”
Dywedodd Mike Cavanagh, Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru:
"Bydd y Trysorau yn ychwanegu at gynnig amrywiol eisoes yng Nglan-yr-afon. Mae’r cynnig eclectig, sy’n cynnwys llyfrgell, oriel, hysbysrwydd ymwelwyr a siop goffi, yn darparu ar gyfer anghenion defnyddwyr lleol ein llyfrgell, ar yr un pryd â bod yn gyrchfan deniadol i ymwelwyr â Sir Benfro.
“Rydym yn sicr y bydd trigolion ac eraill yn mynnu gweld Trysorau, wrth i ni anelu at groesawu 200,000 o ymwelwyr â Glan-yr-afon yn ein blwyddyn agoriadol.”
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn cyflwyno rhaglen o achlysuron cyffrous a gweithgareddau addysgol i gyd-fynd â’r arddangosfa hon.
Yn ymddangos ochr yn ochr â’r Trysorau fydd Stori Sir Benfro, arddangosfa barhaol yng Nglan-yr-afon, sy’n canolbwyntio ar hanes, diwylliant, celfyddyd a chwedlau Sir Benfro. Bydd y ddwy arddangosfa’n rhedeg tan ddydd Sadwrn 12fed Hydref, fel rhan o’r bartneriaeth barhaol rhwng Cyngor Sir Benfro a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng Nglan-yr-afon.
Cafwyd cyllid i adeiladu'r cyfleuster gan amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys Cyngor Sir Benfro, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae Cyngor Tref Hwlffordd wedi rhoi pecyn cyllido pum mlynedd i'r fenter er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn aros yn agored ar brynhawniau Sadwrn, a hynny trwy gydol y flwyddyn. Dim ond ar foreau Sadwrn yr arferai'r llyfrgell flaenorol agor.
Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk neu
01970 632 534