Symud i'r prif gynnwys

02.08.2019

Bydd stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 yn adlewyrchu bwrlwm hanesyddol a diwylliannol tref Llanrwst a’r ardal gyfagos.

Ar y stondin bydd arddangosfa arbennig yn nodi cyfraniadau rhai o fawrion ardal yr ŵyl eleni, gan gynnwys llenorion adnabyddus fel Mary Vaughan Jones a T. Glynne Davies. Yn ogystal, adroddir hanesion lliwgar unigolion megis Gwilym Cowlyd a Huw T. Edwards yn yr arddangosfa ynghyd â phwysigrwydd rhai o draddodiadau cyfoethog yr ardal.

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol a chyffrous, ar gyfer teuluoedd ac oedolion, yn cael eu cynnal ar stondin y Llyfrgell yn ystod wythnos yr 3-10 o Awst 2019. Ymhlith y sesiynau difyr fydd creu cartwnau gyda Mumph, rapio baledi gyda Mr Phormula, clocsio, darlithoedd, cyflwyniadau a gweithdai ymgysylltu. Bydd y rhaglen amrywiol yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr ddod yn rhan o deulu’r Llyfrgell, yn Gyfeillion, defnyddwyr neu’n wirfoddolwyr newydd.

Bydd Siop y Llyfrgell hefyd yn bresennol ar y stondin, ac yn lansio cyfres o nwyddau chwaethus i   gyd-fynd ag un o arddangosfeydd diweddaraf y Llyfrgell – Record: Gwerin, Protest a Phop. Ymhlith y nwyddau fydd bagiau, mygiau a phrintiau yn cynnwys darluniau o bosteri disgos a gigs a gynhaliwyd rhwng y 1960au a’r 1990au yng Nghymru.

Un o feibion Dyffryn Conwy, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, fydd yn lansio stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a hynny am 1 o’r gloch, prynhawn ddydd Sadwrn, 3 Awst. Ymhlith y rhai fydd yn ymuno â’r Gweinidog fydd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, a Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

“Mi fydd hi’n bleser mynd â’r Llyfrgell Genedlaethol i faes yr Eisteddfod eto eleni a cheisio amlygu cyfoeth ein casgliadau a’n gwasanaethau. Yr Eisteddfod yw’r cyfle gorau a gawn i gyfarfod cyfeillion a defnyddwyr y Llyfrgell a phrofiad amhrisiadwy iawn yw derbyn adborth gan y bobl yna ryda ni’n ceisio’u gwasanaethu.”

Ychwanegodd Yr Arglwydd Elis-Thomas AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru:

“Mae gan Sir Conwy hanes diddorol ac y mae’r stondin am roi cipolwg o’r cyfoeth sydd ar gof a chadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Hoffwn ddiolch i’r Llyfrgell am fuddsoddi yn ei phresenoldeb yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, ac am ehangu mynediad i’w chasgliadau a’i gwasanaethau yn y modd hwn.”

DIWEDD

Nodiadau

Rhaglen Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Lleoliad stondin y Llyfrgell Genedlaethol ar y Maes fydd A47.

Gwybodaeth Bellach

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk     neu
01970 632 534