Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
18.12.2019
Dymuna Llyfrgell Genedlaethol Cymru longyfarch Morgan Owen ar ennill Gwobr Pamffledi Barddoniaeth Michael Marks yng nghategori’r Ieithoedd Celtaidd.
Dyfarnwyd y wobr iddo ar nos Fawrth, 10 Rhagfyr, yn ystod achlysur yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain am ei gyfrol moroedd/dŵr.
Er bod y gwobrau am farddoniaeth Saesneg wedi cael eu cynnal ers sawl blwyddyn, dyma’r tro cyntaf i’r wobr Geltaidd gael ei dyfarnu, a’r gobaith yw y bydd yn ddigwyddiad blynyddol o hyn ymlaen. Noddir y gwobrau gan y Michael Marks Charitable Trust a chadeirydd yr ymddiriedolaeth, Marina, Y Foneddiges Marks oedd y tu ôl i’r syniad o wobrwyo barddoniaeth yn yr ieithoedd Celtaidd.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o fod yn rhan o drefniadau’r wobr hon.
Daeth naw pamffled i’r fei eleni, wyth yn Gymraeg ac un yn y Gernyweg.
Genev Dons; Tanya Brittain
Mudo; Cris Dafis
Llanw + Gorwel; Grug Muse
Neu; David Greenslade
Golau; Dyfan Lewis
Mawr a cherddi eraill; Dyfan Lewis
Cywilydd; Iestyn Tyne
Hwn ydi’r llais, tybad?; Caryl Bryn
Meddai’r Prifardd Dafydd Pritchard am y gyfrol fuddugol:
“Dywedwn i mai hwn oedd y casgliad mwyaf uchelgeisiol o gerddi a’r un mwyaf llwyddiannus hefyd… Mae’r cerddi yn gyfoethog o ran ffurf a mynegiant…ac weithiau’n dwyn i gof cerddi Euros Bowen."
Mae’n dda gweld cymaint o bamffledi barddoniaeth newydd yn Gymraeg a phob un o safon uchel. Gobeithio y gwelwn ni’r un egni ym myd cyhoeddi barddoniaeth yn ystod y flwyddyn newydd.”
Bydd manylion y gystadleuaeth newydd i weld ar wefan y Wordsworth Trust yn ystod y flwyddyn newydd:
----DIWEDD----
Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk neu
01970 632 534