Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
27.06.2019
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio adnoddau newydd fel rhan o gynllun ‘Atgof Byw’ er mwyn cynorthwyo sefydliadau iechyd a chymdeithasol gyda therapi’r cof.
Arweinir prosiect ‘Atgof Byw’ gan Uned Gwirfoddoli Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ystod y flwyddyn maent wedi cydweithio gyda’r sectorau iechyd a gofal yng Nghymru er mwyn adnabod potensial casgliadau graffigol a chlywedol, megis hen ffotograffau a ffilmiau, wrth ysgogi atgofion ymysg pobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda dementia.
Mae’r adnoddau canlynol bellach ar gael yn rhad ac am ddim i lyfrgelloedd cyhoeddus a’r rheini sy’n gweithio ym maes gofal pobl hŷn a gofal iechyd meddwl:
Treialwyd y cynllun yn wreiddiol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda mewn wardiau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn ynghyd â Croesffyrdd Ceredigion. Yn ogystal, cynhaliwyd ymgynghoriad cenedlaethol ar-lein er mwyn asesu’r diddordeb ehangach yn y prosiect.
O ganlyniad, penderfynwyd llunio pecynnau ffisegol a digidol, rhad ac am ddim, ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal trwy Gymru. Yn dilyn cais llwyddiannus am nawdd ariannol gan Ganolfan Ffilm Cymru, crëwyd pecynnau o hen ffilmiau a ffotograffau o’r casgliadau cenedlaethol i’w rhannu â grwpiau gwirfoddol a chymunedol, canolfannau dydd a chartrefi gofal.
Bu staff yr Archif Sgrin a Sain, Casgliadau Gweledol a nifer o wirfoddolwr y Llyfrgell Genedlaethol yn allweddol wrth dynnu’r pecynnau ynghyd.
Yn ogystal, fel rhan o’r prosiect, cynhaliwyd 10 gweithdy ar draws Cymru er mwyn rhoi arweiniad i staff y sector iechyd ar sut i lunio casgliadau hel atgofion yn defnyddio adnoddau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad y Werin a Chwaraewr y Sefydliad Ffilm Prydeinig. Cafwyd cynrychiolaeth o 92 o sefydliadau gwahanol yn y gweithdai. Roedd staff Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru hefyd yn bresennol er mwyn cyflwyno prosiect Archif Cof Casgliad y Werin.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae lansio’r adnoddau yma, fel rhan o gynllun ‘Atgof Byw’, yn rhan allweddol o’n huchelgais fel Llyfrgell Genedlaethol, sef ymestyn mynediad at ein casgliadau mewn modd newydd, buddiol a llesol i’r gymuned. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu ar draws Cymru gan fynd â chasgliadau’r Llyfrgell i bob cwr o’r wlad, yn aml at bobl fregus neu anodd eu cyrraedd.”
Ychwanegodd Owen Llywelyn, Rheolwr Cyfranogiad a Hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae adnoddau cynllun Atgof Byw yn dangos sut y gall casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru gael eu defnyddio mewn modd creadigol er budd pobl Cymru, a chyfrannu yn benodol yn yr achos hwn at lesiant iechyd meddwl trwy ysgogi atgofion ymysg pobl hŷn a’r rhai sy’n byw gyda dementia.”
Meddai Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Rydym fel uned yn hynod falch o weld yr adnoddau yma wedi’i lansio. Serch hynny, man cychwyn yn unig ydynt oblegid yr ydym am feithrin perthynas tymor hir gyda defnyddwyr y pecynnau er mwyn dysgu pa mor effeithiol yw'r adnoddau ar gyfer hysgogi'r cof. Ein gobaith yw y bydd pori'r ffotograffau a'r ffilmiau yn gymorth i rannu ambell stori a dod â gwên i'r wyneb."
Gwybodaeth bellach am sut i archebu adnoddau cynllun Atgof Byw yn rhad ac am ddim.
DIWEDD
Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk neu
01970 632 534