Symud i'r prif gynnwys

02/04/2019

Bydd cyfle i ddysgwyr y Gymraeg fwynhau siarad yr iaith mewn gŵyl genedlaethol, diolch i bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cynhelir yr ŵyl undydd o’r enw ‘Ar Lafar’ ar 6 Ebrill yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar dri o safleoedd yr Amgueddfa - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre, ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Bwriad yr ŵyl rad-ac-am-ddim yw rhoi cyfle i ddysgwyr a’u teuluoedd gymdeithasu a defnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar, gan fwynhau’r trysorau cenedlaethol sydd i’w gweld gan y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa.

Bydd gwahanol weithgareddau ar gael ymhob safle a fydd yn addas i ddysgwyr o bob lefel.  Yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd gweithdy creu mapiau a bydd yr actor Llion Williams, o gwmni ‘Mewn Cymeriad’, yn perfformio sioe am hanes yr iaith Gymraeg, ‘Taith yr Iaith’.  Bydd modd, hefyd i ganu a sgwrsio gyda chôr y Llyfrgell Genedlaethol a digon o gyfle yn ystod y dydd i gymdeithasu gyda dysgwyr eraill a siaradwyr Cymraeg.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Dyma’r trydydd tro i ni gynnal ‘Ar Lafar’ a rydym yn falch iawn o fedru parhau â’r bartneriaeth gyda’r Llyfrgell a’r Amgueddfa

“Mae’n bwysig tu hwnt wrth ddysgu’r Gymraeg i roi cyfleoedd i bobl ymarfer siarad yr iaith mewn awyrgylch anffurfiol y tu allan i’r dosbarth.  Rydym hefyd yn gwybod bod nifer fawr o bobl yn chwilio am gyfleon i siarad y Gymraeg ac i dyfu mewn hyder wrth ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

“Mae’r ŵyl hon yn pontio’r elfennau hynny i’r dim – creu cyfleoedd i bobl ymarfer yr iaith a dysgu mwy am hanes cyfoethog Cymru ar yr un pryd.”

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae’n bleser cael croesawu gŵyl Ar Lafar yn ôl i’r Llyfrgell Genedlaethol eleni eto.  Rydym yn hynod falch o allu cynnig profiadau newydd a diddorol i fynychwyr yr ŵyl, boed yn ddysgwyr neu'n siaradwyr rhugl.  Mae’r Llyfrgell yn lle delfrydol i ddysgu mwy am hanes a datblygiad yr iaith, ac fel sefydliad rydym bob amser yn annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.  Mawr obeithiwn y bydd yr ŵyl yn rhoi’r hyder a’r ysgogiad i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn mannau cyhoeddus fel y Llyfrgell yn y dyfodol, a hynny beth bynnag bo’u gallu ieithyddol."

Diwedd

Gwybodaeth bellach

Hawys Roberts

hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru

07812 757716