Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
05/03/2019
Bydd modd prynu eitemau unigryw’n ymwneud â’r arlunydd Syr Kyffin Williams o Siop Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn nigwyddiad yr Emporiwm Cymreig yn Llundain eleni. Cynhelir y digwyddiad, sy’n dathlu crefft, cynnyrch a sgiliau cwmnïau Cymreig, yng Nghanolfan Cymry Llundain ar y 10fed o Fawrth 2019, rhwng 11yb a 5yp.
Trefnir stondin y Llyfrgell ar y cyd â’r Cyngor Llyfrau.
Bydd modd i fynychwyr brynu ystod o nwyddau wedi'i hysbrydoli gan gasgliadau eiconig Kyffin Williams, sy'n cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymhlith yr eitemau fydd printiau celf, llyfrau nodiadau, costeri, mygiau a nwyddau eraill i’r cartref.
Mae’r Llyfrgell hefyd am achub ar y cyfle i ddwyn sylw at ei hymgyrch Fframio’r Dyfodol. Prosiect arbennig yw hwn sy’n ariannu fframiau cadwraeth ar gyfer paentiadau Kyffin Williams. Eisoes, mae cyfraniadau hael gan y cyhoedd wedi ein galluogi i fframio rhai o’r paentiadau, a’r gobaith yw parhau a’r gwaith drwy gefnogaeth bellach.
Bydd amrywiaeth o lyfrau Cymraeg a Chymreig i oedolion a phlant ar werth yn y digwyddiad hefyd. Yn ystod y dydd bydd amryw o sesiynau arwyddo a chyfle i ddweud helo wrth:
Cynhelir digwyddiad yr Emporiwm Cymreig fel rhan o amserlen ehangach Wythnos Cymru yn Llundain.
Bydd yr ystod o stondinau yn yr Emporiwm Cymreig yn arddangos cynnyrch amrywiol o Gymru ar eu gorau, gan gynnwys bwyd, diod, crefft, nwyddau’r cartref a chyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg.
Meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Roedd gan Kyffin Williams gysylltiadau agos â Llundain a braf gweld y Llyfrgell yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor Llyfrau i ddod â nwyddau safonol o Gymru i sylw'r farchnad a phrynwyr yn Llundain, a dwyn amlygrwydd pellach i fawredd yr arlunydd."
Ychwanegodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:
“Fel rhan o ddathliadau Wythnos Cymru Llundain rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddigwyddiad yr Emporiwm. Mae’n gyfle gwych i arddangos yr arlwy arbennig sy’n cael ei gyhoeddi yng Nghymru ar hyn o bryd.”
Elen Hâf Jones [01970 632 534] neu post@llgc.org.uk
Emma Evans [01970 624 151] neu castellbrychan@llyfrau.cymru