Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
06.12.2019
Ar 6 Rhagfyr 2019, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno ag amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus eraill ar draws Cymru i ddathlu ‘Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.’
Bydd y diwrnod yn ddathliad o’r gwasanaethau Cymraeg a gynigir gan sefydliadau, ynghyd â’r hawliau sydd gan bobl i ddefnyddio’r iaith wrth ddelio â hwy. Bydd yn gyfle arbennig felly i’r Llyfrgell hyrwyddo ei holl wasanaethau Cymraeg, a cheisio cynyddu ar y nifer sy’n manteisio ar eu hawl o’u defnyddio.
Hon yw’r flwyddyn gyntaf i’r ymgyrch genedlaethol gael ei chynnal, o dan arweiniad swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Mae’r 6 Rhagfyr yn ddyddiad arwyddocaol, gan ei fod yn cyfateb i’r diwrnod y cafodd y ddeddfwriaeth iaith ei phasio gan y Cynulliad yn 2010. Y gobaith yw cynnal yr ymgyrch genedlaethol yn flynyddol.
Ar y diwrnod, gellir dysgu mwy am eich hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ffurf ymgyrch ddigidol liwgar, felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol ar 6 Rhagfyr ac yn benodol #maegenihawl.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ymhyfrydu yn yr ystod eang o wasanaethau a gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg a’n hymrwymiad at weithredu safonau’r Gymraeg ar bob cyfle posib. Dyma ddiwrnod arbennig i godi ymwybyddiaeth a dwyn sylw at y cyfleoedd arbennig sydd gennym i ddefnyddio’r Gymraeg yma yn y Llyfrgell.”
Meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:
“Bellach mae dros 120 o sefydliadau yn gweithredu safonau’r Gymraeg, sy’n golygu fod gan y cyhoedd hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw. Rydym yn falch fod sefydliadau megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi manteisio ar y cyfle heddiw i hyrwyddo’r hawliau ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg. Gadewch i ni, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, wneud y mwyaf o’r hawliau hyn a dewis y Gymraeg.”
---DIWEDD---
Rhian Haf Evans
post@llgc.org.uk neu
01970 632 938