Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
26.04.2019
O’r 22ain o Fai 2019 ymlaen bydd gwaith adnewyddu a chynnal a chadw angenrheidiol, sy’n debygol o barhau am rhyw bedwar mis ar hugain, yn digwydd y tu fewn a thu allan i adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Bydd y rhaglen yn sicrhau fod yr eicon hanesyddol hwn yn dal i fod yn adnodd hanfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Gan fod y rhaglen adeiladu yn cynnwys gwaith adnewyddu sylweddol ar doeau, muriau a ffenestri’r adeilad, mae’n bosib y bydd rhai gwasanaethau’n cael eu darparu mewn ffordd wahanol neu mewn lleoliadau gwahanol o fewn y Llyfrgell, ac mae'n debygol y bydd mwy o sŵn na’r arfer yn yr adeilad ar adegau.
Er y gall y gwaith achosi rhywfaint o anghyfleustra i ymwelwyr a darllenwyr, penderfynwyd peidio â chau’r Llyfrgell yn ystod y cyfnod, ond yn hytrach aros ar agor a gwneud ein gorau i reoli a lliniaru effeithiau’r gwaith.
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru mewn gwaith adnewyddu fydd yn sicrhau fod yr adeilad pwysig hwn yn parhau i gynnig cartref diogel i’n trysorau cenedlaethol yn y dyfodol.
"Mi benderfynon ni beidio cau'r Llyfrgell tra bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen er mwyn sicrhau fod gan y cyhoedd fynediad parhaus at y casgliadau unigryw a phwysig sydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.
"Er y bydd y gwaith yn tarfu ychydig ar brofiad yr ymwelydd, bydd staff y Llyfrgell ar gael bob amser i gynghori a hwyluso ymwelwyr a defnyddwyr, a'u cynorthwyo i gael mynediad llawn i'n hadnoddau."
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn defnyddio dulliau gwahanol o gyfathrebu gyda’r cyhoedd yn ystod cyfnod y gwaith adnewyddu, gan gynnwys tudalen Gwaith Adeiladu ar ein gwefan a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol @LlGCymru (Twitter), @llgcymrunlwales (Facebook) a @llgcnlw (Instagram) .
Dywedodd Huw Williams, Pennaeth Ystadau a Gwasanaethau Atodol y Llyfrgell:
"Mae rhannau o’r adeilad pwysig hwn wedi sefyll am dros gan mlynedd, a nod y rhaglen adnewyddu a chynnal a chadw hon yw sicrhau y bydd adeilad y Llyfrgell yn dal i ddiogelu a rhoi mynediad i gasgliadau pwysig am ganrifoedd i ddod. Bydd y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud ar yr adeilad yn ei wneud yn llawer mwy cynaliadwy o ran defnyddio ynni, ac yn sicrhau bod ein casgliadau yn dal i gael eu diogelu i’r dyfodol."
Carol Edwards
01970 632 923
carol.edwards@llyfrgell.cymru
DIWEDD