Symud i'r prif gynnwys

14.01.2019

Ym mis Ionawr bydd arddangosfa newydd yn agor yn y Llyfrgell i ddathlu bywyd a gwaith Humphrey Llwyd (1527-1568). Yn Lluniwr Prydain: Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd (19.01.19 - 29.06.19) bydd gwaith pwysicaf Llwyd yn cael ei arddangos, gan roi sylw i’w gampau niferus ac esbonio eu harwyddocâd heddiw.

Cynhelir yr arddangosfa hon ar y cyd â’r prosiect: Inventor of Britain: The Complete Works of Humphrey Llwyd a ariennir gan AHRC a bydd yn dathlu ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru ac yn amlygu’r ymchwil newydd a gynhyrchwyd fel rhan o’r prosiect.   

Ystyrir Humphrey Llwyd, hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau, a aned yn Ninbych, fel Lluniwr Prydain, gan mai ef sy’n cael y clod am fathu’r term Ymerodraeth Brydeinig, ond hefyd am mai ef oedd y gŵr a roddodd Gymru ar y map trwy gyhoeddi’r map cyntaf yn dangos Cymru fel gwlad.  

Fel un o wŷr blaenllaw cyfnod y Dadeni yng Nghymru, cyflawnodd lawer a chwaraeodd ran amlwg yn y broses o greu’r cysyniad o Gymru fel gwlad. Cynhyrchodd nifer o weithiau pwysig gan gynnwys cyfieithiad Saesneg o’r gwaith cynnar, Brut y Tywysogion. Hefyd bu’n allweddol yn yr ymdrech i helpu i lywio’r Mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd a phoblogeiddio hanes Tywysog Madog yn darganfod America.  

Er iddo gael ei ddisgrifio fel “un o hynafiaethwyr enwocaf ein gwlad” yn ystod ei oes ac fel “un o ddyniaethwyr pwysicaf Cymru ac yn ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru” gan Saunders Lewis, mae hanes Llwyd yn parhau’n anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru. .

Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydw i’n hynod o falch mai ffrwyth ein partneriaeth yw’r arddangosfa wych hon sy’n rhoi sylw haeddianol i Humphrey Llwyd fel ffigwr pwysig yn hanes Cymru.”

Yn ôl yr Athro Philip Schwyzer o Brifysgol Caerwysg, Prif Ymchwiliwr y prosiect:
“Roedd dylanwad Llwyd yn ymestyn tu hwnt i ffiniau Cymru, i Loegr, yr Iseldiroedd, a’r Eidal.  Bydd yr arddangosfa hon yn ein galluogi i amgyffred ei gampau niferus.”

Ychwanegodd  Huw Thomas, Curadur Mapiau yn y Llyfrgell:
“Mae Humphrey Llwyd yn un o’r rhai sy’n cael ei danbrisio fwyaf o blith gwŷr cyfnod y Dadeni yng Nghymru. Yn benodol, ef yw tad cartograffeg Cymru ac felly mae’n briodol iawn i ni ddathlu hynny yma yn y Llyfrgell lle cedwir casgliad mor bwysig o’i waith.”

Bydd nifer o weithiau pwysicaf Llwyd yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys nifer o gopïau o’i fap o Gymru a llythyr gan Llwyd i Ortelius a ysgrifennwyd ar ei wely angau, gan sicrhau bod ei gyfraniad at hanes a diwylliant Cymru’n cael ei gydnabod a’i ddathlu.  

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’i drefnu ar gyfer cyfnod yr arddangosfa, gan gynnwys:

26.01.19 1.30pm
Agoriad swyddogol yr arddangosfa a Darlith Cyfeillion LlGC: The Literary Legacy of Humphrey Llwyd
Philip Schwyzer, Prifysgol Caerwysg
Mynediad trwy docyn £4.00, am ddim i Gyfeillion LlGC

08.03.19 1.00pm
'Myned trwy wledydd Europa', Teithiau Humphrey Llwyd
Paul Bryant-Quinn, Prifysgol Caerwysg
Mynediad am ddim trwy docyn
 
26.04.19 1.00pm
Humphrey Llwyd: Hanesydd Cymru
Huw Pryce, Prifysgol Bangor
Mynediad am ddim trwy docyn

31.05.19 9.30am
Carto-Cymru: Symposiwm Mapiau Cymru 2019
Humphrey Llwyd: Lluniwr Prydain
Mynediad trwy docyn £10

Bydd yr arddangosfa, Lluniwr Prydain: Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd, ar agor rhwng 19.01.19 a 29.06.19 yn Oriel Hengwrt.  Mynediad am ddim.

#InventorofBritain
#HumphreyLlwyd450

Gwybodaeth Bellach

 

Nia Wyn Dafydd 01970 632871 neu post@llgc.org.uk