Symud i'r prif gynnwys

11.01.2019

Yn dilyn ymddangosiad yr Arglwydd Elis-Thomas a’i swyddogion gerbron y Pwyllgor Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chyfathrebu ddoe, dywedodd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Glyn Thomas:
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweld ei phartneriaeth gyda BBC Cymru fel un tra phwysig ac fel un sydd â photensial i ddarparu adnodd diwylliannol na welwyd ei debyg o’r blaen. Felly, anogwn swyddogion Llywodraeth Cymru i gyfarfod yn fuan â BBC Cymru gyda’r gobaith y gwelwn ni ddatrysiad buan i’r sefyllfa, a hynny cyn i bwyllgorau’r Bwrdd Ymddiriedolwyr gyfarfod ar y 1af o Chwefror i benderfynu’n derfynol ynghylch a ellid cyflwyno’r cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri ai peidio; byddai’r penderfyniad hwnnw’n cael ei drafod gan Ymddiriedolwyr y Llyfrgell ar y 15ed o Chwefror. Byddai oedi pellach yn peryglu’r prosiect unigryw hwn a fyddai, yn y pen draw, yn darparu mynediad cyhoeddus i'r casgliad mwyaf gwerthfawr o hanes cymdeithasol Cymru'r ganrif ddiwethaf”.

Gwybodaeth Bellach

Nia Wyn Dafydd 01970 632871 neu post@llgc.org.uk