Symud i'r prif gynnwys

14.10.2019

Rhwng 14 Hydref ac 8 Tachwedd, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu ei chasgliadau ffotograffig helaeth gydag ymgyrch ar-lein a digwyddiadau. Yn ystod mis Ffocws ar Ffotograffiaeth bydd amrywiaeth o ddelweddau a gwybodaeth am gasgliadau ffotograffig yn cael eu rhannu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell.

Bydd thema benodol ar gyfer pob wythnos a bydd y delweddau a rennir yn ymwneud â'r themâu hyn. Bydd wythnos gyntaf y mis yn delio â ffotograffiaeth o bwysigrwydd rhyngwladol, gan edrych ar waith ffotograffwyr megis Philip Jones Griffiths ac eraill. Bydd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar y lleol yng nghasgliadau ffotograffig y Llyfrgell, gan edrych ar gasgliadau sydd o ddiddordeb lleol, megis casgliad Glynne Pickford, a hefyd D.C. Harries a Guy Hughes. Yn ystod y drydedd wythnos, ffotograffiaeth o arwyddocâd Cenedlaethol fydd yn cael sylw, gan ganolbwyntio ar ffotograffwyr sydd wedi gweithio ar lefel genedlaethol i ddogfennu Cymru, fel Nick Treharne, John Thomas, Geoff Charles a llawer mwy. Yn olaf, yn ystod yr wythnos ddiwethaf byddwn yn edrych ar yr hyn sy'n newydd yn y casgliad ffotograffig. Yn ystod yr wythnos hon, bydd gwybodaeth am gaffaeliadau newydd i'r casgliadau a chasgliadau ffotograffig wedi'u digideiddio'n ddiweddar yn cael eu rhannu.

Fel rhan o'r mis bydd 2 ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell:

Dydd Gwener 25 Hydref, 1:00pm

PICKFORD’S ABERYSTWYTH, WILL TROUGHTON

Cyfle arbennig i weld Aberystwyth fel nad ydyw wedi’i weld o’r blaen trwy lens y ffotograffydd Glynne Pickford. Er bod y rhan fwyaf o gynnyrch y busnes wedi’i golli, mae digon wedi goroesi i roi cipolwg ar y dref a’r ardal gyfagos. Yn y sgwrs hon gan Will Troughton, Curadur Ffotograffiaeth y Llyfrgell, bydd cyfle i weld nifer o luniau nad ydynt wedi’u cyhoeddi na’u gweld o’r blaen ac ail-ymweld â digwyddiadau a golygfeydd sydd wedi hen ddiflannu.

(Bydd y sgwrs hon hefyd yn cael ei ffrydio ar gyfrif Trydar y Llyfrgell)

 

Dydd Llun 4 Tachwedd, 1:00pm

THE PEOPLE I MEET, THE THINGS I SEE, NICK TREHARNE

Sgwrs hynod ddiddorol lle bydd y ffotograffydd Nick Treharne yn trafod ei steil ffotograffiaeth sy’n deillio o’i brofiad yn gweithio fel ffotograffydd i’r wasg. Yn benodol, bydd yn siarad am ei waith diweddaraf sy’n ei weld yn teithio ledled Cymru i gofnodi portread cyfoes o Gymru ... Yn gryno, “Y bobl rydw i’n eu cyfarfod, y pethau rwy’n eu gweld”

Yn ogystal, bydd fframiau digidol yn dangos detholiad o ddelweddau yn cael eu lleoli mewn busnesau o amgylch tref Aberystwyth

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae ein casgliadau ffotograffig yn adnodd amhrisiadwy, yn dogfennu bywyd yng Nghymru a thu hwnt ac yn gofnod gweledol o gyfnodau mewn amser. Rydym yn croesawu pob cyfle i hyrwyddo'r cyfoeth o adnoddau a gedwir yn y Llyfrgell ac i rannu ein hadnoddau â chynulleidfa mor eang â phosibl. "

Meddai Will Troughton, Curadur Ffotograffau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae'r mis yma yn rhoi cyfle i'r Llyfrgell Genedlaethol i hyrwyddo rhai o'n daliadau helaeth o ffotograffiaeth o Gymru a thu hwnt ac i ddod â nhw i sylw cynulleidfa ehangach.”

Bydd yr holl ddelweddau a gwybodaeth yn cael eu rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell: Facebook: llgcymrunlwales, Twitter: @NLWales | @LLGCymru ac Instagram: @llgcnlw

DIWEDD

Gwybodaeth bellach

Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk neu
01970 632 871