Symud i'r prif gynnwys

28/03/2019

Ar nos Sadwrn 30 Mawrth 2019 am 8.30pm, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn diffodd ein goleuadau am awr i gefnogi Awr Ddaear WWF.

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â miliynau o bobl, dinasoedd, cymunedau a thirnodau o gwmpas y byd mewn arddangosiad gweledol byd-eang o ymrwymiad i fynd i’r afael â materion amgylcheddol sy’n galw am sylw ar frys ac i warchod ein planed.

Yn 2018, ymunodd unigolion, busnesau a sefydliadau o 188 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd ag ymgyrch Awr Ddaear WWF, a hynny er mwyn sbarduno trafodaethau a gweithrediadau ynghylch achub byd natur. Fe unodd oddeutu 18,000 o sefydliadau ledled y byd yn y weithgaredd o ddiffodd eu goleuadau, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Huw Thomas, Pennaeth Ystadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gefnogi Awr Ddaear WWF unwaith eto eleni. Mae gan sefydliadau cyhoeddus fel ni ran fawr i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiffodd y goleuadau yn y Llyfrgell am 8.30pm ar nos Sadwrn 30 Mawrth i ddangos ein cefnogaeth.”

Ychwanegodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi Awr Ddaear WWF eleni. Mae'r bywyd gwyllt yr ydym yn caru, o adar y pâl i eirth gwyn, mewn perygl o effeithiau newid hinsawdd, llygredd a gorddefnydd.

Rydym yn annog ein cymuned leol a phartneriaid yn Aberystwyth a thu hwnt i ymuno â’r ymgyrch fyd-eang i ddiffodd goleuadau ar gyfer Awr Ddaear ar nos Sadwrn 30 Mawrth am 8.30yh. Ymunwch â ni wrth ddangos eich cefnogaeth i fyd mwy disglair a chynaliadwy.”

I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Earth Hour Wales

Nodiadau i olygyddion

Ymunwch â’r sgwrs ar Twitter gyda’r hashnod #AwrDdaear, a thrwy ddilyn @wwfcymru.

Ynghylch WWF

WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd-eang sy’n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Wrth gydweithio â’r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, maent yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur ac yn llunio atebion i rai o broblemau amgylcheddol mwyaf difrifol sy’n gwynebu ein planed, a hynny er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch wybod mwy am waith WWF ar wwf.org.uk.

Gwybodaeth Bellach

Elen Hâf Jones 01970 632534 neu post@llgc.org.uk