Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
25.11.19
Mae archifau Cymru yn gartref i gyfoeth o drysorau – ydych chi’n barod i archwilio?
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r ymgyrch cenedlaethol Archwilio Eich Archif, sydd eleni’n cael ei gynnal rhwng 23 a 30 o Dachwedd. Fel rhan o’r dathliadau, mae archifau ledled Cymru’n paratoi at arddangos eu gwasanaethau a chasgliadau mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Nod yr ymgyrch cenedlaethol yw annog pobl i ddarganfod y storïau, ffeithiau, lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd cymunedau yng Nghymru. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell yn ystod yr wythnos er mwyn arddangos gwerth archifau.
Yn ogystal, byddwn yn rhannu gwybodaeth am amrywiaeth o eitemau archifol annisgwyl mewn ymgyrch ddigidol liwgar. Gellir gweld yr eitemau hyn mewn arddangosfa fechan yn y Llyfrgell ar 29 a 30 Tachwedd. Byddwn hefyd yn dathlu gwerth a gwybodaeth ein staff sydd, trwy eu gwaith diwyd, yn sicrhau bod gan y cyhoedd mynediad i’n heitemau.
Ar Ddydd Llun 25 Tachwedd bydd un o’n haelodau staff mwyaf profiadol, Sally McInnes, yn trafod ei gyrfa yn y Llyfrgell yn ei chyflwyniad, 30 Years an Archivist: Reflections on a Career at the Library. Yn ei sgwrs, bydd yn rhoi trosolwg o’i phrofiadau ac yn myfyrio ar sut mae’r Llyfrgell wedi parhau i gasglu, cadw a darparu mynediad i’w chasgliadau. Yn ystod wythnos Archwilio Eich Archif cewch hefyd flas o waith ein harwyr archifol ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Ymhlith uchafbwyntiau’r wythnos y bydd fersiwn newydd o’n Dihangfan, neu LlyfGell 2.0. Ar Ddydd Sadwrn 30 Tachwedd, byddwn yn mynd ag ymwelwyr ar daith o amgylch ardaloedd cudd y Llyfrgell ac yn eu herio i ddianc o grombil y Gen!
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae gennym ystod gyfoethog o gasgliadau archifol diddorol ac unigryw gan bobl, busnesau, grwpiau a sefydliadau sydd wedi siapio hanes ein cenedl a thu hwnt. Mae Archwilio Eich Archif yn ymgyrch liwgar sy’n codi ymwybyddiaeth, nid yn unig o’r deunydd amhrisiadwy yma, ond o’r gwasanaeth a gynigir i bawb mewn archifdai ar draws y wlad. Edrychaf ymlaen at eich croesawu i'r Llyfrgell yn ystod yr wythnos er mwyn i chi fedru archwilio'r hyn sydd gan archifau i'w cynnig."
Ychwanegodd Rhian James Lanagan, Pennaeth Archifau a Llawysgrifau:
“Mae Archwilio yn ymgyrch wych. Mae archifau yn drysorfeydd o wybodaeth a straeon sy'n aros i ni eu chwilota. Ai'n ymwelydd rheolaidd neu newydd, mae ymweld â'r Llyfrgell neu eich archifdy lleol yn medru bod yn brofiad ysbrydoledig sy'n cynnig cipolwg i hanesion y bobol a'r lleoedd sydd wedi llunio ein cymunedau.”
-------DIWEDD-------
Nodiadau i Olygyddion
Dilynwch ein hymgyrch ar Facebook llgcymrunlwales, Twitter @LLGCymru ac Instagram @librarywales yn ystod yr wythnos!
I archebu lle i’r Ddihangfan ewch i: digwyddiadau.llyfrgell.cymru
#ArchwilioArchifau
Nia Dafydd
post@llgc.org.uk neu 01970 632 871