Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
03.05.2019
Dyfernir un o Ysgoloriaethau Doethurol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019-2020 i fyfyriwr PhD fydd yn ymchwilio i gyfraniad nodedig Dr Meredydd Evans a’i briod, Mrs. Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Cynllun cydweithredol rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (Yr Archif Gerddorol Gymreig) ac Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau (Prifysgol Bangor) fydd hwn a disgwylir i’r sawl a fydd yn ei derbyn ym mis Hydref eleni dalu sylw arbennig i rai o’r alawon gwerin anghyhoeddedig a gasglwyd ac a gofnodwyd ganddynt a’r meysydd ymchwil a fu o ddiddordeb penodol iddynt (e.e. y carolau traddodiadol, alawon yr anterliwtiau a.y.b.,).
Fel dau o gymwynaswyr pennaf y genedl, bu Merêd a Phyllis yn hael iawn eu cefnogaeth i weithgaredd cerddorol y Brifysgol ym Mangor a phan drosglwyddwyd papurau a dogfennau y ddau i ofal Yr Archif Gerddorol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2018, roedd cyd-weithio rhwng y sefydliadau yn gam anorfod ymlaen.
Bydd yr Ysgoloriaeth, a ariennir gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnal yr ymchwilydd am gyfnod o 3 blynedd (llawn-amser) neu 6 mlynedd (rhan-amser) a disgwylir i’r unigolyn dderbyn cyfarwyddyd a hyfforddiant gan y Brifysgol, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chan y Llyfrgell.
Dywed yr Athro Chris Collins (Pennaeth yr Ysgol ym Mangor):
‘Mae hyn yn ddatblygiad arbennig i ni fel sefydliad ac yn arwydd o’n parch a’n gwerthfawrogiad o’u cefnogaeth ers degawdau. Edrychwn ymlaen i weld ffrwyth yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yng Nghymru’.
Rhagwelir y bydd cynnyrch yr ymchwil doethurol yn sail i dri math gwahanol o gynnyrch, sef:
a. Astudiaeth ysgolheigaidd o gyfraniad Meredydd Evans a Phyllis Kinney i fyd cerddoriaeth werin Cymru
b. Allbynnau cerddorol (e.e. casgliadau o ganeuon gwerin anghyhoeddig ynghyd â nodiadau, catalogau o brif ffynonellau carolau traddodiadol Cymreig) fydd yn gyfrwng i ddwyn casgliad Merêd a Phyllis i sylw’r cyhoedd
c. Gweithgaredd cyhoeddus (e.e. arddangosfeydd neu berfformiadau) a fydd yn gyfrwng i hyrwyddo’r papurau hyn a chyfraniad neilltuol y ddau a fu’n ddyfal yn eu dwyn ynghyd.
Dywed Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae archif helaeth ac anghymarol Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn haeddu sylw ymchwilydd praff a galluog ac y mae’r ysgoloriaeth hon a’r bartneriaeth newydd rhyngom ni, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig cyfle unigryw i efrydydd weithio ym maes cerddoriaeth werin sy’n bwysig i ni yma yn y Llyfrgell. Mae’n cynnig cyfle i ni hefyd i gydnabod ymhellach ac amlygu mawredd Mered a Phyllis’
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion cymwys ar gyfer yr Ysgoloriaeth hon fydd yn cychwyn ar Hydref 1af (2019). Cynhelir cyfweliadau yn Aberystwyth yn ystod mis Mehefin fodd bynnag.
DIWEDD
Dolenni defnyddiol
Wyn Thomas, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor
w.thomas@bangor.ac.uk
(07754) 382571
neu
Mrs Nia Daniel, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
niw@llyfrgell.cymru
(01970) 632800