Symud i'r prif gynnwys

08/04/2019

Agorwyd sioe deithiol, sy'n arddangos gweithiau celf arloesol newydd gan artistiaid cyfoes a gomisiynwyd i gefnogi prosiect digidol a rhyngweithiol yr Atlas Llenyddol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth 2019. Mae Arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig yn ymweld â chwe lleoliad gwahanol ledled Cymru dros gyfnod o ddeuddeng mis a bydd yn parhau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan yr 8fed o Fehefin.

Menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Data a Dulliau Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yw’r Atlas Llenyddol. Nod y prosiect oedd plotio lleoliadau daearyddol, go iawn a dychmygol, sy’n ymddangos mewn nofelau Saesneg wedi’i lleoli yng Nghymru.

Fe ddewiswyd 12 cyfrol o blith cannoedd o weithiau ffuglen. Aeth ymchwilwyr ati i gofnodi’r holl gyfeiriadau daearyddol a grybwyllir yn y straeon, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ddilyn pob plot yn ddaearyddol o amgylch Cymru a'r byd. Mae'r teclyn rhyngweithiol felly’n galluogi defnyddwyr i archwilio’r lleoliadau sydd wedi siapio'r nofelau a'u cymeriadau.

I gefnogi'r prosiect, comisiynwyd 12 artist i greu gweithiau celf wreiddiol a oedd yn adlewyrchu pob nofel a ddewiswyd, a bydd y rhain yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym yn falch iawn o’n partneriaeth gyda’r Atlas Llenyddol wrth ddod ag Arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig i'r Llyfrgell, a rhoi’r cyfle i’n hymwelwyr brofi allbynnau arloesol y prosiect. Mae'r sioe hon yn gyfle i arddangos gwaith sy'n cydblethu llenyddiaeth, daearyddiaeth a dehongliad artistig a sydd hefyd yn adlewyrchu casgliadau unigryw'r Llyfrgell ei hun."

Ychwanegodd yr Athro Jon Anderson, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, arweinydd y prosiect:
“Rydym wedi gweld nifer fawr o ymwelwyr yn defnyddio'r wefan ac yn archwilio'r mapiau rhyngweithiol ar gyfer y 12 nofel gan ddatblygu eu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng daearyddiaeth a llenyddiaeth.

“Rydw i’n hynod falch o weld yr arddangosfa gelf ar ei thaith, fel y gall pobl Cymru werthfawrogi'r adlewyrchiadau meddylgar ac arloesol sydd yn ymateb i themâu allweddol y 12 nofel a ddewiswyd. Rwy'n gobeithio y byddant yn procio'r meddwl ac yn ysgogi’r ymdeimlad o le ac amser.”

Gwybodaeth bellach

Elen Haf Jones
01970 632 534
post@llgc.org.uk