Symud i'r prif gynnwys

Archif ddarlledu genedlaethol gyntaf y DU i gael ei chreu diolch i’r Loteri Genedlaethol

14/16/2019

Mae prosiect arloesol i greu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru – y gyntaf o’i bath yn y DU – yn mynd ei flaen diolch i grant gan y Loteri Genedlaethol o bron i £5 miliwn (£4,751,000) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd yr arian gan y Loteri Genedlaethol yn helpu sicrhau bod tua 240,000 awr o ddeunydd radio a theledu o Gymru, sy’n olrhain bron i 100 mlynedd o ddarlledu ac sy’n cynnwys sawl digwyddiad econig o hanes a diwylliant Cymru yn ystod yr 20fed ganrif ar gael ac yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd y deunydd BBC – mewn fformatiau gwreiddiol ac wedi ei ddigideididio – yn cael ei ychwanegu at archif bresennol ITV Cymru y Llyfrgell Genedlaethol, gan ddechrau gwireddu’r weledigaeth o Archif Ddarlledu Genedlaethol gyflawn i Gymru.

Bydd y deunydd yn cael ei gadw mewn storfa bwrpasol 1,000 metr sgwâr yn y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd hefyd ar gael i’r cyhoedd mewn pedwar lleoliad arall ar hyd a lled Cymru.  
Bydd cyfres o ganolfannau clipiau symudol yn sicrhau y gall cymunedau gwledig ac anghysbell gyrchu’r archif hefyd, a bydd 1,500 clip archif BBC Wales ar gael i unrhyw un eu gwylio arlein gartref neu mewn ysgolion.

Dywedodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymru: “Mae archif BBC Cymru Wales yn cofnodi bron i ganrif o fywyd Cymru yn ei holl amrywiaeth. Ynghyd ag archifau ITV Wales sydd eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol, bydd y prosiect hynod bwysig hwn yn chwarae rhan allweddol wrth gasglu hanes darlledu ein cenedl a’i wneud yn hygyrch i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed.

“Wrth inni nodi 25 mlynedd ers dechrau’r Loteri Genedlaethol, mae’r grant pwysig dros ben hwn yn ffordd wych o ddathlu ac mae’n pwysleisio cyfraniad mor hanfodol yw’r arian hwn er mwyn diogelu ein treftadaeth.”

Mae prif elfennau’r prosiect yn cynnwys:

  • Dros 180,000 eitem sy’n cwmpasu’r Ail Ryfel Byd, llwyddiannau chwaraeon eiconig, trychineb Aberfan, ymgyrch datganoli a streic y Glöwyr
  • Gweithgareddau mewn deg ardal wahanol yn cynnwys dros 300 digwyddiad rhyngweithiol i hybu dysgu digidol ar gyfer pobl ifanc a iechyd a lles ar gyfer hen bobl,
  • Darnau unigryw sy’n dilyn datblygiad yr iaith Gymraeg a chynnyrch awduron fel Dylan Thomas a Saunders Lewis, yn ogystal â recordiadau o ddarllediadau Cymraeg cynnar  
  • Dros 1,500 o wirfoddolwyr yn helpu catalogio’r deunydd archif helaeth yn ogystal â datblygu gweithgareddau cymunedol creadigol a llawn dychymyg
  • Sefydlu canolfannau clipiau symudol gan sicrhau bydd y wybodaeth yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach

Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y Loteri Genedlaethol wedi rhoi cyllid ar gyfer y prosiect arloesol hwn fydd yn sicrhau y bydd archif BBC Wales ar gael i’r cyhoedd. A ninnau’n gartref i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a bod deunydd gan ITV Wales eisoes yn y Llyfrgell, rydyn ni’n bwriadu diogelu’r ffynhonnell hanfodol hon o dreftadaeth ein cenedl ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’i defnyddio i helpu sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol gyntaf y DU.”

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: “Mae archif BBC Wales yn drysorfa – dyma gof cenedl sy’n ymestyn yn ôl bron i ganrif. Felly pa ffordd well i ddathlu pen-blwydd y BBC yn gant oed yn 2022 nag agor y ffynhonnell anhygoel hon i ysgolion, colegau a chymunedau ledled Cymru. Mae ein dyled ni’n fawr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a’u gweledigaeth."

Bydd gweithgareddau mewn deg ardal wahanol yn cynnwys dros 300 digwyddiad rhyngweithiol i hybu dysgu digidol ar gyfer pobl ifanc a iechyd a lles ar gyfer hen bobl, a chaiff yr archif ei defnyddio i helpu efelychu atgofion a straeon ar gyfer pobl sydd â dementia.

Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth ariannol atodol o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel yr eglura yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydw i wrth fy modd y bydd arian gan y Loteri Genedlaethol, ynghyd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn helpu cymunedau ar draws Cymru gan gynnwys rheiny sy’n byw yn ein Hardaloedd Cyfuno, gan eu galluogi nhw i ymgysylltu â hanes ein cenedl, ac a fydd – diolch i’r prosiect uchelgeisiol ac un o bwys cenedlaethol hwn – yn dod yn fwy hygyrch i bawb.”

Mae cyllid ychwanegol o £2 filiwn o Gronfeydd Preifat y Llyfrgell a £2.5m o gynnwys digidol a chefnogaeth o fath arall gan y BBC hefyd wedi cyfrannu at y prosiect.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:
Deian Creunant     01970 636419 | deian.creunant@four.cymru
Amelia Taylor        01970 636407 | amelia.taylor@four.cymru

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Gan ddefnyddio arian sy’n cael ei godi gan y Loteri Genedlaethol rydyn ni’n ysbrydoli, arwain a darparu ffynnonellau i dreftadaeth y DU er mwyn creu newid sy’n bositif ac yn para i bobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. www.HeritageFund.org.uk.

Dilynwch @HeritageFundCYM ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #CronfaDreftadaethLoteriGenedlaethol

Y Loteri Genedlaethol mewn rhifau

  • 2019 yw 25ain pen-blwydd y Loteri Genedlaethol. Darlledwyd y loteri gyntaf yn fyw ar BBC1 ar 19 Tachwedd 1994.
  • Bob wythnos, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi tua £30 miliwn ar gyfer achosion da. Mae cyfanswm o bron i £40 miliwn wedi cael ei godi a’i ddyfarnu i dros 535,000 o brosiectau unigol – cyfartaledd o 190 grant loteri i bob ardal cod post y DU.
  • Yng Nghymru mae £397 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i dros 2,600 o brosiectau treftadaeth, gan gynnwys Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, Safle Ynys Caernarfon, Arsyllfa Gweilch Dyfi a Gwaith Copr Hafod Morfa Abertawe.