Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
21.06.2019
Ar ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, agorir arddangosfa newydd - ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r arddangosfa’n archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd ‘Record’ yn archwilio pam y disgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân, ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd.
Mae'r arddangosfa hefyd am edrych ar draddodiadau cerddorol cynnar a gwerinol Cymru drwy lawysgrifau megis Melus-seiniau Cymru, sef un o’r casgliadau pwysicaf o alawon gwerin Gymreig a gasglwyd gan Ifor Ceri. Cydnabyddir dylanwad unigolion fel Meredydd Evans a’i briod Phyllis Kinney ym maes cerddoriaeth werinol ac adloniant ysgafn, a hynny drwy eitemau newydd o’u harchif. Ymhlith uchafbwyntiau eu casgliad y mae llythyr arbennig oddi wrth Richard Burton at Merêd yn trafod alawon gwerin Cymraeg.
Bydd ‘Record’ hefyd yn edrych ar sut mae labeli annibynol a grwpiau Cymreig wedi gweithio i gynhyrchu cerddoriaeth protest a phop chwyldroadol yn ystod y degawdau diwethaf. Daw’r stori’n fyw yn yr archifau amrywiol, gan gynnwys papurau Y Blew a’r Super Furry Animals. Mae cylchgronau pop cynnar fel Asbri a Sŵn, casgliad helaeth o bosteri gigs o’r 1960au hyd at yr 1990au a phortreadau celf pop Malcolm Gwyon o sêr y sîn hefyd i’w gweld yn yr arddangosfa.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae Record: Gwerin, Protest a Phop yn ddathliad lliwgar ac amrywiol o’r traddodiad cerddorol yng Nghymru. Braf yw ei gyflwyno yn y Llyfrgell Genedlaethol fel modd o arddangos cyfoeth ein casgliadau sy’n cynrychioli datblygiad y traddodiad ar draws y canrifoedd gan gyfuno casgliadau'r Archif Gerddorol, yr Archif Sgrin a Sain ac eitemau o’n casgliadau gweledol. Mae rhywbeth i bawb yn yr arddangosfa hon, o’r cynnar i’r cyfredol, ac mae’n siŵr o ysgogi atgofion yn yr un modd ymhlith ei ymwelwyr.”
Ychwanegodd Mari Elin, Curadur Arddangosfa ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’:
“Mae hi wedi bod yn lot o hwyl curadu’r arddangosfa hon, ac yn gyfle gwych i roi llwyfan i gasgliadau’r Archif Gerddorol a’r Archif Sgrin a Sain, sydd mor amrywiol a diddorol. Gobeithio bydd ‘Record’ yn ysgogi ymwelwyr i fynd ati i archwilio’r casgliadau ymhellach, yn ogystal â galw heibio’u siop recordiau lleol i ‘nôl record Gymreig neu ddwy!”
Meddai Nia Mai Daniel, Yr Archif Gerddorol Gymreig:
“Mae'r arddangosfa yn rhoi blas o'r casgliadau cerddorol gwerin a phop sydd yn y Llyfrgell, ac yn gyfle i ddathlu'r casgliadau a dderbyniwyd yn ddiweddar gan gynnwys archif Merêd a Phyllis Kinney a llyfrau lloffion y Super Furry Animals. Os oes rhywun â mwy o ddeunydd fel posteri, ffotograffau, neu lythyrau cysylltwch â ni. Rydym yn dal i gasglu er mwyn medru dogfennu ac adlewyrchu hanes cerddoriaeth Cymru o'r gwreiddiau hyd at heddiw.”
Yn ganolbwynt i’r arddangosfa mae’r ‘Ystafell Wrando’ neon yn galw ar ymwelwyr i ymdrochi yn rhai o draciau eiconig Cymru, gan gynnwys Maes B (Y Blew) a Chwyldro (Gwenno).
Bydd ‘Mainc Wrando’ hefyd yn cael ei gosod o flaen adeilad y Llyfrgell lle bydd modd i ymwelwyr eistedd a mwynhau clipiau sain prin o gasgliad ‘sesiynau coll Radio Cymru’, sydd wedi’u digido a’u dewis yn arbennig i gyd-fynd â’r arddangosfa fel rhan o brosiect cyffrous 'Datgloi ein Treftadaeth Sain', tra hefyd yn mwynhau golygfeydd godidog Bae Ceredigion.
Crëwyd rhestr chwarae arbennig hefyd i gyd-fynd â ‘Record’ ac mae modd gwrando ar y casgliad detholedig ar Spotify.
DIWEDD
Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk neu
01970 632 534