Symud i'r prif gynnwys

19.07.2019

Ar ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf 2019, bydd arddangosfa ‘Byd Newydd’ yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd yr arddangosfa’n dilyn anturiaethau, chwedlonol a ffeithiol, rhai o’r Cymry sydd wedi ‘darganfod’, archwilio ac ymgartrefu yn y ‘Byd Newydd’. Yn eu plith ceir tywysog Cymreig, llwyth o frodorion Cymraeg eu hiaith, cowboi a dau o ddinasyddion amlwg America.

Bu’r  cysylltiad rhwng y Cymry a’r ‘Byd Newydd’ yn destun trafodaethau ar hyd y canrifoedd. Yn yr arddangosfa, gellir gweld Cronica Walliae (1559) gan Humphrey Llwyd, sef y ffynhonnell  gyntaf y gwyddom amdani sy’n cyfeirio at chwedl Madog,  a sy’n honni bod cysylltiad y Cymry â  Gogledd America yn mynd yn ôl cyn belled â’r ddeuddegfed ganrif. Daeth Madog i fod yn ffigwr chwedlonol dylanwadol, a ysbrydolodd  rhai fel Iolo Morganwg i ysgrifennu’n helaeth amdano. Mae llythyr a ysgrifennodd y fforiwr John Evans yn 1792, sy’n ceisio dwyn perswâd ar Iolo Morgannwg i ymuno ag ef ar daith i chwilio am lwyth o Indiaid Cymreig, hefyd i’w weld yn yr arddangosfa.

Mae nifer fawr o Gymry wedi mudo i’r ‘byd newydd’ ers dyddiau Madog, a chawn hanes rhai a gadawodd eu marc ar y wlad yn ‘Byd Newydd’. Yn eu plith y mae Lewis Evans, a luniodd un o fapiau pwysicaf Americanaidd y ddeunawfed ganrif a fydd i’w weld yn yr arddangosfa.

Bydd modd hefyd cael cipolwg ar un o anturiaethau’r Cowboi Cymreig, Arthur Owen Vaughan, neu Owen Rhoscomyl yn ‘Byd Newydd’, yn ogystal â rhyfeddu at fawredd tirlun gorllewin America mewn set o ffotograffau prin a dynnwyd gan Carelton E. Watkins yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Meddai Mari Elin Jones, Curadur Arddangosfa ‘Byd Newydd’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r chwedlau a’r hanesion sydd ynghlwm â hanes Cymru ac America yn rhyfeddol, ac mae’n braf gallu dod â hwy i’r amlwg yn yr arddangosfa hon drwy amrywiol gasgliadau’r Llyfrgell.  Gobeithiaf y bydd ymwelwyr yma yng Nghymru, a thu hwnt, yn achub ar y cyfle hwn i weld eitemau prin a diddorol sy’n dathlu perthynas Cymru â’r ‘Byd Newydd’.”

Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r lle delfrydol i ddysgu mwy am berthynas Cymru a’r ‘Byd Newydd’. Pleser yw croesawu’r arddangosfa hon felly er mwyn rhoi cipolwg sydyn ar hynt a helynt rhai o’r mawrion sydd wedi mudo yno ar draws y canrifoedd. Mae gennym gronfa helaeth o gasgliadau sy’n cofnodi, nid yn unig cyraeddiadau unigolion a chymunedau Cymreig yng Nghymru, ond eu cyfraniadau ar draws y byd. Dewch i arddangosfa ‘Byd Newydd’ er mwyn dysgu mwy am eu hanturiaethau!”

Nodiadau Bydd arddangosfa ‘Byd Newydd’ ar agor tan 11 Ionawr 2020.

Gwybodaeth Bellach: Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534