Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
29.08.2019
Mae Dafydd Elis Thomas, AC, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi cyhoeddi pedwar penodiad newydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Meri Huws wedi ei phenodi yn Is Lywydd, a Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams wedi eu penodi yn Ymddiriedolwyr. Bydd y pedwar yn cychwyn yn eu swyddi ar 1 Fedi 2019 am dymor o bedair blynedd.
Dywedodd Dafydd Elis Thomas:
"Mae’n bleser gennyf gyhoeddi apwyntiad Meri Huws i rô1 Is Lywydd y Llyfrgell, ynghyd â thri Ymddiriedolwr arall. Ynghyd a gwybodaeth a dealltwriaeth eang o ddiwylliant Cymreig, mae gan Meri hefyd brofiad helaeth i’w gynnig i’r rôl. Pleser hefyd yw cyhoeddi apwyntiadau Michael Cavanagh, Quentin Howard, a Carl Williams; mae gan y tri gefndir tra gwahanol, a byddant yn cynnig persbectif newydd a gwahanol i’r Bwrdd wrth iddo gychwyn ar gynllun strategol newydd i’r sefydliad."
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell:
"Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn croesawu’n fawr apwyntiadau Meri Huws, Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams. Mi fydd y pedwar yn cynnig ystod o brofiad ac arbenigedd gwerthfawr i’r Bwrdd, a gwn y bydd fy nghyd Ymddiriedolwyr yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant i’r pedwar wrth iddynt gychwyn ar eu cyfnod o wasanaeth."
Ychwanegodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell:
"Mi fydd yn fraint cael yr unigolion profiadol a galluog hyn ar Fwrdd y Llyfrgell, yn enwedig wrth i ni gynllunio ar gyfer cynllun strategol nesaf y sefydliad. Bydd y pedwar ohonynt yn gaffaeliad mawr i ni wrth i ni barhau i ddatblygu ac ehangu ein gwaith a’n gwasanaethau. Pob dymuniad da iddynt."
DIWEDD
Carol Edwards
01970 632 923