Symud i'r prif gynnwys

23.05.2019

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bresennol ar faes Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd rhwng y 27ain o Fai a’r 1af o Fehefin 2019, gyda stondin tu allan i fynedfa Canolfan y Mileniwm. 

Ar y stondin, bydd cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn her gyffrous – dihangfan. Gofynnir i’r rheini sy’n ddigon dewr i wynebu’r sialens ddianc o’r LlyfrGell mewn llai na ugain munud. I wneud, bydd yn rhaid iddynt sylwi a darganfod cyfres o gliwiau mewn da bryd. 

Mae’r posau, sy’n arwain ymgeiswyr i ddatgloi cyfres o ddrysau, yn seiliedig ar gasgliadau amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O lyfrau i ffotograffau, mapiau i lawysgrifau, mae pob tasg wedi’i llunio gan ddefnyddio deunydd eiconig a diddorol o drysorfa’r genedl. Serch hynny, nid ymwybyddiaeth o hanes a diwylliant Cymru fydd yn cynorthwyo cyfranogwyr i lwyddo, mae’r cyfan yn dibynnu ar feddwl rhesymegol.


Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Os am ddihangfan ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni, ewch i chwilio am uned Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle gewch chi ddigon o hwyl a sbri yn ceisio datrys dirgelion a fydd yn eich rhyddhau eto i'r byd mawr. Heb os, bydd plant a phobl ifanc Cymru'n llwyddo lle y methais i ryddhau fy hun o'r ddihangfan ddirgel!  Mae'n fraint wirioneddol cael bod yn rhan o weithgareddau'r Eisteddfod eto eleni a phob llwyddiant i'r ŵyl yn y Bae."


Ychwanegodd Rhodri Morgan, Rheolwr Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell:

“Mae’r ddihangfan yn adlewyrchu'r hyn a wneir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ymchwilio deunyddiau a darganfod ffeithiau. Mae’n gyfle, nid yn unig i ddiddanu ymwelwyr iau, ond hefyd i gynyddu eu hymwybyddiaeth o gasgliadau pwysig ac amrywiol y Llyfrgell mewn modd creadigol ac arloesol. Mae hefyd yn cynnig y cyfle iddynt ymarfer sgil hynod bwysig - y gallu i ddatrys problem.

“Gobeithiwn eich gweld ar stondin y Llyfrgell yn ystod yr wythnos, mae croeso i chi ddod i mewn, ond… a ddewch chi mas?”

 

Nodiadau:

Bydd y ddihangfan ar agor i bawb gydol yr wythnos, a threfnir sesiynau pob hanner awr rhwng 09:30 a 17:00. Mae’r gweithgaredd yn rhad ac am ddim, ond rhaid i ymgeiswyr archebu amser i gymryd rhan ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru (RH003). Mae croeso i dimau rhwng 2 a 5 mewn nifer roi cynnig ar ddianc o’r ystafell, ac er nad oes angen i riant fod yn bresennol, mae croeso iddynt gymryd rhan.

Yn ogystal, bydd modd prynu eitemau amrywiol ac unigryw wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ei stondin yn Eisteddfod yr Urdd 2019.

Gwybodaeth bellach

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534