Symud i'r prif gynnwys

20.09.2019

Ar 22 Tachwedd 2019 bydd Cynhadledd Hanes Meddygaeth yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod trysorau cudd Casgliad Meddygaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ystod y diwrnod bydd cyfres lawn o gyflwyniadau yn y Drwm, LlGC rhwng  09:30-17:00. Cewch ddysgu am wahanol agweddau o hanes iechyd a lles megis amodau glanweithdra cefn gwlad a pheryglon y diwydiant glo, safon gofal mewn gwallgofdai, achosion o ymprydio, difa’r diciâu a swyngyfaredd iachau.

Cynhelir y gynhadledd fel rhan o brosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a ariannir gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome. Nod y prosiect, sydd wedi bod yn weithredol ers Tachwedd 2018, yw codi ymwybyddiaeth o  adnoddau ar iechyd a hanes meddygaeth yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r Llyfrgell bellach wedi ehangu mynediad i ran o’r casgliad pwysig hwn trwy gatalogio a digido eitemau a gyhoeddwyd cyn 1900.

Bydd cyfle i fynychwyr Cynhadledd Hanes Meddygaeth yng Nghymru brofi ffrwyth gwaith y prosiect a gweld arddangosfa fechan dros dro yn y Llyfrgell Genedlaethol, fydd yn parhau am wythnos wedi’r digwyddiad.

Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

''Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at Gynhadledd gyffrous fydd yn codi'r llen ar y trysorau cudd o gasgliadau'r Llyfrgell sy'n ymwneud â hanes meddygaeth ac iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd cyfle i fynychwyr weld yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma trwy gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Wellcome a sut yr ydym wedi codi ymwybyddiaeth ac ehangu mynediad at yr adnoddau pwysig yma. Mewn byd heriol sy'n newid yn gyflym, mae sicrhau iechyd a lles pob unigolyn yn allweddol, boed hynny yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Pwy a ŵyr nad oes yna wersi i'w dysgu o hanes meddygaeth y gorffennol a all ysbrydoli'r genhedlaeth bresennol ac i'r dyfodol?"

Meddai Branwen Mair Rhys, Rheolwr Prosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol:

“Bydd y Gynhadledd hon yn ddathliad o waith y prosiect dros y flwyddyn ddiwethaf. Prosiect sydd wedi galluogi mynediad ar-lein i Gasgliad Print Meddygaeth y Llyfrgell Genedlaethol. Mawr obeithiaf y bydd cyflwyniadau amrywiol y Gynhadledd yn ennyn diddordeb mewn datblygiadau iechyd cyhoeddus yn ein gwlad. Mae lles ac iechyd yn dylanwadu ar bob elfen o hanes ieithyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a bydd mynediad i’r adnoddau hyn yn hwyluso gwaith ymchwilwyr, ac yn y pen draw yn hybu cyhoeddiadau newydd ym maes y dyniaethau meddygol yng Nghymru.”

DIWEDD

Gwybodaeth bellach

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534

Nodiadau i Olygyddion

Casgliad Meddygaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad sylweddol o adnoddau meddygol printiedig Cymraeg a Chymreig. Ceir dros 6,500 o eitemau gyda’r cynharaf yn dyddio o 1745. Yn eu plith ceir llyfrau ar foddion cynnar, meddyginiaethau llysieuol, adroddiadau swyddogion iechyd trefol a gwledig, ac adroddiadau ysbytai a chanolfannau iechyd meddwl. Ymysg y casgliad ceir argraffiadau cyntaf o gasgliadau llysieuol cynnar Pharmacoepia gan Nathaniel Williams, a llyfrau cynnar ar feddyginiaethau poblogaidd megis Pob Dyn yn Phisygwr Iddo ei Hun ac i'w Anifeiliaid Hefyd, llyfrau am Feddygon Myddfai a’r British Herbal neu Lysieulyfr Brytanaidd gan Nicholas Culpeper.

Ymddiriedolaeth Wellcome:

Mae Ymddiriedolaeth Wellcome, sefydliad annibynnol yn wleidyddol ac ariannol, yn cefnogi ymchwil trwy gyllido’n uniongyrchol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig grantiau ar draws sawl sector a maes, gan gynnwys gwyddoniaeth fiofeddygol, iechyd y boblogaeth, arloesi meddygol, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ac ymgysylltu.