Symud i'r prif gynnwys

28.05.2019

Ar y 31ain o Fai 2019, cynhelir Carto-Cymru: Symposiwm Mapiau Cymru 2019 a fydd yn seiliedig ar Humphrey Llwyd, Lluniwr Prydain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Bydd y Symposiwm hanner diwrnod, sy’n cael ei drefnu ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, gyda’r prosiect Inventor of Britain, a ariennir gan yr AHRC, yn gwerthuso gwaith a dylanwad Humphrey Llwyd, tad cartograffeg Cymru.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gartrefi i gyfoeth o ddeunydd cartograffig. Bydd y digwyddiad yn gyfle i fynychwyr â diddordeb yn y maes ddatblygu eu dealltwriaeth o’u casgliadau.

Ynghyd â rhaglen o gyflwyniadau, bydd curadur mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o deithiau tywys o amgylch un o arddangosfeydd presennol y Llyfrgell - Lluniwr Prydain: Bywyd a Gwaith Humphrey Llwyd. Mae’r symposiwm yn un o gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd dros gyfnod yr arddangosfa, sydd ar agor tan y 29ain o Fehefin 2019. Yn Lluniwr Prydain gellir gweld detholiad o weithiau pwysicaf  Llwyd, gan gynnwys nifer o gopïau o’i fap enwog o Gymru a llythyr a ysgrifennodd at Ortelius ar ei wely angau.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Lle gwell i gynnal symposiwm mapiau na Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n gartref i'r casgliad mapiau mwyaf yng Nghymru, ac un o’r mwyaf yn y Byd? Bydd y symposiwm yn gyfle i ddathlu cyfoeth ein casgliad mapiau cenedlaethol, a thalu teyrnged a chydnabod cyfraniad enfawr Humphrey Llwyd i fywyd a dysg y genedl.”

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

Keith Lilley
Athro Daearyddiaeth Hanesyddol, Prifysgol Queen’s, Belfast

Joost Depuydt
Curadur Casgliadau Argraffiaeth a Thechnegol, Amgueddfa Plantin-Moretus, Antwerp

James January-McCann
Swyddog Enwau Lleoedd a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Meddai Huw Thomas, Curadur Mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Eleni, rydym wedi ymuno â'r prosiect ymchwil 'Inventor of Britain', a ariennir gan AHRC, sy'n astudio gweithiau Llwyd, a bydd cyflwyniad yn seiliedig ar rai o ddarganfyddiadau cyffrous y prosiect yn rhan o’r digwyddiad. Mae'r fformat ychydig yn wahanol eleni gyda thaith o amgylch ein harddangosfa bresennol ar Humphrey Llwyd, cyflwyniadau i rai o drysorau cysylltiedig casgliadau’r Comisiwn yn ogystal â darlithoedd. Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych!”

Nodiadau i Olygyddion:
Mae’r Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros filiwn o ddalennau o fapiau, siartiau a chynlluniau yn ogystal â miloedd o atlasau. Dyma’r casgliad mwyaf o fapiau yng Nghymru, ac un o’r mwyaf yn Ynysoedd Prydain. Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau, o’r mapio electronig diweddaraf i fapiau a siartiau ar felwm o’r 16eg. Mae’r casgliad yn arbenigo mewn deunyddiau Cymreig; ond mae ynddo hefyd nifer fawr o eitemau sy’n cynnwys gweddill y byd.

Tocynnau:
digwyddiadau.llyfrgell.cymru

#CartoCymru
#CaruMapiau
#LluniwrPrydain
#HumphreyLlwyd450

Gwybodaeth Bellach

Elen Hâf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534