Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
25.04.2019
Ar brynhawn ddydd Gwener, 26 Ebrill am 12.30 o’r gloch bydd seremoni arbennig yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddadorchuddio portread o Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Lluniwyd y gwaith, sef portread mewn olew ar gynfas yn mesur 40x30 modfedd, gan yr artist portreadau David Griffiths.
Meddai Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rydym fel Llyfrgell yn falch iawn o fod wedi medru prynu’r portread hwn o Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion a Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, ffigwr o bwys cenedlaethol a fydd yn destun sgwrs cenedlaethau’r dyfodol a ddaw yma i fwynhau ein casgliadau”.
“Mae gan destun y portread bersona enfawr ac atyniadol, ond y mae’r artist dawnus David Griffith hefyd wedi dehongli’r hyn na wêl y llygad noeth, sef ysbryd a chymeriad ei destun.
“Mae Elin Jones yn wleidydd sylweddol sydd wedi cyfrannu’n helaeth at les a dyfodol Cymru. Bydd y seremoni dadorchuddio yn fodd o anrhydeddu’r cyfraniadau hynny.”
Ychwanegodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Mae fy nyled yn fawr i’r artist David Griffiths. Cysylltodd â mi haf llynedd a gofyn i fy narlunio. Roedd hynny’n dipyn o sioc ond roedd y profiad o gwrdd a thrafod gyda David yn un pleserus dros ben a dwi’n hynod hapus gyda’r canlyniad. Mae’n artist caredig iawn â’i destun. Diolch hefyd i’r Llyfrgell Genedlaethol am ychwanegu’r gwaith i’w casgliad.”
Carol Edwards
01970 632 923