Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
04.12.2019
Ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig eto? Os na, peidiwch â phryderu! Dewch draw i Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar nos Iau, 5 Rhagfyr i siopa, mwynhau gwledd o weithgareddau, bwyta a gwrando ar adloniant byw.
Bydd y dathliadau yn dechrau am hanner dydd pan weinir cinio Nadolig traddodiadol yng Nghaffi Pen Dinas (un cwrs yn £8.00 a dau gwrs yn £12.00). Bydd nwyddau chwaethus ar werth yn Siop y Llyfrgell drwy gydol y dydd, a thros 20 o stondinau gan artistiaid a chrefftwyr lleol gyda’r nos. Dewch hefyd i fwynhau adloniant byw yng nghwmni Côr y Gen, Iwcadwli, Bwca a Ffion Evans ac ymlacio dros ychydig o luniaeth ysgafn Nadoligaidd yng Nghaffi Pen Dinas.
Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu i ddenu cynulleidfa o bob oed! I’r rhai iau, bydd Groto Siôn Corn o 5:00pm ymlaen a gofod i fod yn greadigol neu i ysgrifennu llythyr at Siôn Corn.
Os ydych chi dal i chwilio am anrheg Nadolig perffaith ac unigryw, bydd Huw Chiswell yma i lofnodi ei gyfrol newydd sbon Shwd Ma’i yr Hen Ffrind?
Bydd y Llyfrgell yn sicr o fod llawn bwrlwm y Nadolig ar y noson! Dyma gyfle gwych i ddod o hyd i’r anrheg berffaith ar gyfer eich anwyliaid - neu’n esgus i dretio eich hun efallai?!
I brynu tocyn ar gyfer Cinio Nadolig a threfnu bwrdd ymlaen llaw, cysylltwch â Siop y Llyfrgell: 01970 632 548.
----DIWEDD----
Nia Wyn Dafydd
post@llgc.org.uk
01970 632 871