Symud i'r prif gynnwys

18.06.2019

Ar 19 o Fehefin bydd Sali Mali yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 mlwydd oed a bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno yn y dathliadau gyda nifer o weithgareddau.

I nodi’r achlysur, bydd y Llyfrgell yn ymuno â sefydliadau eraill wrth i’r adeilad cael ei oleuo’n oren gyda’r nos.

Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Sali Mali i’r Llyfrgell yn ddiweddar a’i thywys o amgylch ardaloedd amrywiol y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd modd dilyn hynt ei hymweliad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell ar 19 Mehefin.

Ers 28 Mai, bu modd i ymwelwyr â’r Llyfrgell wylio 13 pennod o gyfres animeiddio Sali Mali ar sgrin fawr ardal Peniarth a bydd rhain ar gael i’w gweld hyd 20 Mehefin. Animeiddiwyd Sali Mali ar gyfer y gyfres deledu ar S4C yn 2000 (Siriol/Calon) gyda Rhys Ifans yn lleisio a Cerys Matthews yn canu’r arwydd-gân a gyfansoddwyd gan Chris Stuart. Bu modd i’r Llyfrgell arddangos y clipiau o ganlyniad i garedigrwydd S4C, Cwmni Sain a Chymdeithas Lyfrau Ceredigion.

Yn ogystal, cynhelir Sesiwn Stori a Pharti Sali Mali yn Caffi Pendinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 4:00 y prynhawn, ddydd Mercher, 19 Mehefin.

Cefndir Stori Sali Mali
Yn 1969 ymddangosodd Sali Mali am y tro cyntaf mewn llyfr a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Yn hwyrach fe brynwyd y wasg honno gan GOMER.  Creadigaeth Mary Vaughan Jones yw Sali Mali, ac mae Sali wedi ymddangos mewn degau o lyfrau, fel cymeriad ar y teledu ac mewn caneuon.  Ond yn fwy na dim mae wedi bod yn ffrind i filoedd o blant Cymru, ac wedi eu helpu i ddysgu darllen.

Ganwyd Mary Vaughan Jones yn 1918, yn ardal Llanrwst. Roedd hi’n athrawes ddawnus ac yna’n ddarlithydd coleg. Fe wnaeth gyfraniad enfawr i lenyddiaeth plant Cymru a chyhoeddwyd tua deugain o’i llyfrau.  Sali Mali yw ei chymeriad mwyaf adnabyddus.  

Bu farw Mary Vaughan Jones yn 1983 ond mae awduron eraill wedi cael eu hysbydoli i barhau i ysgrifennu straeon lliwgar am Sali Mali a’i ffrindiau, gan gynnwys Dylan Williams ac Ifana Savill.

Rowena Wyn Jones darluniodd y cymeriad gwreiddiol a dros y blynyddoedd mae ei delwedd wedi newid ychydig. Mae artistiaid amrywiol wedi ei darlunio hi – gan gynnwys Jac Jones, Gary Evans, Emma Pelling, Catrin Meirion a Simon Bradbury.

Jac Do yw anifail anwes Sali Mali – cymeriad direidus, busneslyd! Mae ei ffrindiau eraill yn cynnwys Jac y Jwc, Jaci Soch, Y Pry Bach Tew a Dwmplen Malwoden.

Daeth Sali Mali i’r sgrin fach am y tro cyntaf yng nghyfres deledu S4C, Caffi Sali Mali, yn 1994 (Sianco). Ysgrifennwyd y gyfres gan Ifana Savill.  Yr actores Rebecca Harries wnaeth chwarae rhan Sali Mali.

Gwybodaeth bellach

Elen Haf Jones
post@llgc.org.uk    neu
01970 632 534