Symud i'r prif gynnwys

04/04/2019

Ar 8 Ebrill 2019 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal diwrnod i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sy’n delio â phroblemau golwg yn y cartref ac yn y Llyfrgell.

Bydd nifer o gwmnïau arbenigol yn arddangos eu cyfarpar yn y digwyddiad, gan roi’r cyfle i fynychwyr drafod ag unigolion proffesiynol profiadol o fewn y maes.  Yn ogystal, bydd staff y Llyfrgell ar gael i esbonio’r ystod o gyfleusterau sydd ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynorthwyo darllenwyr ac ymchwilwyr.

Ymhlith y cwmnïau a’r cymdeithasau fydd yn bresennol mae:

Porth y Gymuned, sef gwasanaeth a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r cynllun yn cynnwys aelodau staff hyfforddedig sy’n medru cynorthwyo trigolion o bob oedran yng Ngheredigion i wneud cysylltiadau er mwyn ehangu ar eu cyfleoedd cefnogaeth yn eu hardal.

Mae Llyfrau Llafar Cymru yn cynhyrchu fersiynau sain o lyfrau Cymraeg. Erbyn hyn, mae ganddynt gatalog o fwy na 1000 o deitlau.

Elusen Prdeinig yw'r Royal National Institute of Blind People, sy'n cynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i oddeutu dwy filiwm o bobl sy’n dioddef problemau golwg ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae cwmni Dolphin/SuperNova yn dyfeisio meddalwedd sy’n galluogi pobl â nam golwg ac anawsterau dysgu i gael mynediad mwy hwylus i gyfrifiadur. Maent yn arbenigo yn y broses o greu cynnyrch sy’n hwyluso profiadau unigolion, beth bynnag yw eu lefel technoleg gwybodaeth, i wneud tasgau o ddydd i ddydd ar gyfrifiaduron a thabledi.

Professional Vision Services, sef dylunwyr, gwneuthurwyr ac adwerthwyr technoleg mynediad ar gyfer y rheini â nam golwg.  Maent yn datblygu a gwerthu cynnyrch megis peiriannau darllen, cymerwyr nodiadau braille, meddalwedd chwyddo a darllen ar gyfer sgriniau, meddalwedd cyfieithu braille, a thechnoleg arddangos adnewyddadwy braille.

Yr elusen genedlaethol Calibre Audio Library, sy’n darparu llyfrau sain am ddim ar gyfer oedolion a phlant â phroblemau golwg, dyslecsia neu anableddau eraill, sy’n golygu na allant ddarllen print.

The British Wireless for the Blind Fund. Nod y gronfa yw lleddfu teimladau o unigrwydd ac arwahanrwydd yn y rheini sy’n byw â phroblemau golwg. Maent yn cyflawni eu hamcan drwy ddarparu sain a chwmnïaeth ar ffurf radio. Mae'r gronfa'n cyflenwi offer sain sydd wedi'i haddasu'n arbennig ar gyfer y rheini na fyddent fel arfer yn gallu ei fforddio, ar fenthyciad am ddim ledled y Deyrnas Unedig.

Meddai Dafydd Pritchard, Rheolwr Mynediad at Gasgliadau:
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu unigolion, cwmnïau a chymdeithasau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o’r digwyddiad yma. Mae’n gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sy’n delio â phroblemau golwg. Mae’n hollbwysig i ni ein bod yn adlewyrchu anghenion amrywiol ein darllenwyr a’n hymwelwyr ac rydym yn falch o allu dweud bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n sefydliad cynhwysol. Bydd y digwyddiad yma’n rhoi’r cyfle i ni arddangos hyblygrwydd ein gwasanaethau sy’n hygyrch ac yn agored i bawb.”

Nodiadau

Cynhelir y digwyddiad 'Problem Golwg?' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 6 Ebrill rhwng 10yb a 2yp. Mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Gwybodaeth bellach

Elen Haf Jones

01970 632 534

post@llgc.org.uk