Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
24.10.2019
Mae Jenny Williamson, Cadwraethwr Paentiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi’i gwneud yn Gymrawd y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Gweithiau Hanesyddol ac Artistig. Mae’r dyfarniad yn gydnabyddiaeth o gyfraniad nodedig i faes cadwraeth a datblygiad proffesiynol.
Pan ofynnwyd i Jenny grybwyll rhai o uchafbwyntiau ei gyrfa, dywedodd:
“Mae nifer o baentiadau allweddol yn aros yn y cof. Ymhlith y rhain y mae gweithiau Syr Kyffin Williams, bu rhai o’i baentiadau’n bleser gweithio â hwy, ag eraill yn broblematig iawn!
“Roedd gweithio ar bortread Catherine Jones o Colomendy gan Richard Wilson, a baentiwyd tua 1740, yn broses gymhleth, ond pleserus. Ychwanegwyd haen arall o baent yn ddiweddarach at y gwaith, gan newid siâp yr eisteddwr. Yn wreiddiol, paentiwyd ysgwyddau'r pwnc â llethr eithaf dramatig ond newidiwyd y rhain i ymddangos yn fwy sgwarog. Y cwestiwn allweddol oedd a ddylid tynnu'r ychwanegiadau hyn yn gyfan gwbl, neu barhau i lanhau'r paentiad fel yr oedd? Yn y pen draw, penderfynais, ar ôl llawer o drafodaethau, dychwelyd y ddelwedd yn ôl i’r hyn yr oedd yr artist wedi ei phaentio'n wreiddiol.
“Fe wnes i hefyd adfer portread Tuduraidd o Catrin o Ferain ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol. Gelwir Catrin o Ferain yn Fam Cymru, a phaentiwyd y portread penodol hwn ym 1568 ac fe’i priodolir i Adriaen Van Cronburgh. Pleser yw ei weld ar ddangos yn barhaol yn y Llyfrgell. Mae'n baentiad diddorol, nid yn unig oherwydd y pwnc ond hefyd oherwydd gallu’r arlunydd; mae manylion y gemwaith wedi'u paentio'n hyfryd.
“Rhaid imi nodi bod llawer o gadwraethwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain ac nid yw pob agwedd ar eu gwaith yn amlwg i bobl o’r tu allan. Ar wahân i adfer paentiadau, mae fy ngwaith yn cynnwys monitro a rheoli amgylchedd storio ac arddangos, gan gynnwys lleithder a lefelau golau. Mae paratoi gweithiau ar gyfer arddangosfeydd mewn lleoliadau allanol hefyd yn elfen hanfodol o fy ngwaith, yn enwedig gwirio eu fframiau a’r gwydredd.”
Nododd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd:
“Rydym yn ymhyfrydu yn llwyddiant Jenny. Mae ei sgiliau cadwriaethol yn rhyfeddol ac yr ydym mor lwcus o’i chael hi ar staff y Llyfrgell. Bu ei chyfraniad i ddatblygiad proffesiynol o fewn ei maes arbennigol hefyd yn nodedig iawn. Mae cael cynnig y gymrodoriaeth hon yn anrhydedd fawr iddi gan ei fod wedi’i gynnig gan ei phroffesiwn rhyngwladol.”
DIWEDD
len Haf Jones
post@llgc.org.uk neu
01970 632 534
Yn ogystal â'i gyrfa yn y Llyfrgell, bu Jenny yn darlithio'n rhan-amser ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr Ysgol Gelf, rhwng 2005 - 2015, ar wahanol agweddau ar gadwraeth. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel Is-gadeirydd bwrdd Ymddiriedolwyr y Sefydliad Cadwraeth er 2017, mae wedi bod ar y Grŵp llywio ar gyfer datblygu Strategaeth Gadwraeth Genedlaethol ar gyfer Cymru, wedi gweithio gyda Materion Cadwraeth yng Nghymru ers blynyddoedd lawer ac wedi bod yn rhan o'r Rhwydwaith Cynllunio Brys De Cymru ers 2017.
Mae hi'n byw yn Borth ac yn fam brysur i dri mab ond yn dal i gynnal ei chysylltiadau â chadwraethwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.