Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru dros filiwn o ffotograffau sy’n ymwneud â Chymru yn y casgliad. Mae’r Curadur Ffotograffiaeth, Wil Troughton, wedi gofalu am filoedd ar filoedd ohonynt yn ystod ei yrfa o 34 mlynedd. Mae pob ffotograff yn cael ei gymryd am reswm, a’r rheswm hwnnw — y “pam?” — sy’n gwneud pob delwedd yn ddiddorol.
O’r nifer anferthol o ffotograffau y mae Wil wedi’u gweld, mae rhai wedi dal ei sylw’n fwy nag eraill. Gall hyn fod oherwydd cyfansoddiad cryf, testun anarferol neu bwysig, defnydd diddorol o dechneg, eiliad ddoniol, cysylltiad personol, neu oherwydd bod y ddelwedd yn deffro hen atgof.
Mae’r ffotograffau sydd wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfa hon yn cynnwys yr elfennau hyn, ond yn ôl Wil, “yn fwy na dim byd arall, maen nhw’n cynrychioli distylliad personol iawn o dros un filiwn o ffotograffau hynod ddiddorol.”