Symud i'r prif gynnwys

Gwaith Adnewyddu

Mae'r Llyfrgell ar agor i'r cyhoedd fel arfer yn ystod y gwaith adnewyddu. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn a'i effaith posib ar wasanaethau ar ein tudalen Gwaith Adeiladu.

22.6.19 - 11.12.19 Nodwch os gwelwch yn dda bod yr arddangosfa hon yn cau yn gynt na'r disgwyl ar 11 Rhagfyr.

Anecs

Mae Cymru’n aml yn cael ei disgrifio fel gwlad y gân, ac yn wir, mae ein hanthem genedlaethol yn cyfeirio at “wlad beirdd a chantorion…”.  Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut datblygodd y traddodiad hwnnw ar hyd y canrifoedd?  

Bydd yr arddangosfa hon yn defnyddio’r Archif Gerddorol a’r Archif Sgrin a Sain i olrhain hanes cerddoriaeth Cymru o’r crwth i’r Cyrff gan edrych ar y traddodiad cynnar, dylanwad unigolion fel Meredydd Evans a sut mae labeli Cymreig wedi gweithio i gynhyrchu cerddoriaeth werin, protest a phop chwyldroadol.  

Cynnwys perthnasol

I gyd-fynd â'r arddangosfa, rydyn ni wedi creu rhestr chwarae arbennig o gerddoriaeth Cymreig ar Spotify - mwynhewch!