Symud i'r prif gynnwys

12 Mehefin 2024 - 24 Awst 2024

Uwch Gyntedd

Mae 2024 yn nodi 120 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Sioe Frenhinol Cymru. Yn yr arddangosfa hon rydym yn dathlu’r ‘Sioe Fawr’, un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop. Gan ddigwydd ym mis Gorffennaf bob blwyddyn, cafodd ei gynnal yn wreiddiol yn Aberystwyth yn 1904. Aeth i leoliadau amrywiol hyd at 1963, pan gafodd gartref parhaol yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt.

Yn yr arddangosfa hon edrychwn ar sut mae’r Sioe ac amaethyddiaeth wedi esblygu dros y degawdau drwy ffotograffau gan Geoff Charles, Arvid Parry-Jones a Haydn Denman.