Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Syniad y ffotograffydd Bruce Cardwell yw Byd Bach Aber, prosiect sy’n dathlu cymeriad unigryw’r dref arbennig hon ac amrywiaeth ein cymuned yn ystod y 2020au.
Yn wreiddiol o Belfast, daeth Bruce Cardwell i Aberystwyth i astudio yn 1981, ac fel llawer cafodd ei swyno gan y dref a’i phobl. Fel un sy’n cyfaddef ei fod wrth ei fodd yn ‘gwylio pobl’, mae nod Bruce yn fwy na chofnodi’r bobl hyn yn unig. Wrth dynnu lluniau pobl, mae’n dathlu'r amrywiaeth fywiog a'r unigolion gwahanol yn ein cymuned. Wrth ddod ar draws ei destunau, mae darganfod eu straeon a meithrin hyder yn bwysig i Bruce wrth bortreadu eu personoliaeth.
Mae casgliadau gwahanol o ffotograffau Byd Bach Aber i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Amgueddfa Ceredigion, Ysbyty Bronglais ac mewn sawl siop a busnes ar hyd a lled y dref dros yr haf.
Bydd hefyd cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal i ddod â’r prosiect a’r arddangosfa’n fyw ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr.