Symud i'r prif gynnwys

Uwch Gyntedd
20.05.23 – 04.11.23

Mae Faadi / Y Stafell Fyw yn brosiect ffotograffiaeth a ffasiwn rhwng cenedlaethau sy’n rhannu lleoliadau teuluol agos o fewn cartrefi Cymraeg Somali. Mae pwyslais ar ddathlu: gyda delweddau o fodelau lleol ifanc mewn gwisg briodasol, aelodau o'r gymuned yn modelu dillad diwylliannol fel Hidyaah, Dhaqan a Diraq, brawdoliaeth a gwrywdod meddal a dawns draddodiadol Ciyaar Somali.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naeem, cylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf Du a Mwslemaidd a Young Queens, grŵp celfyddydol ar gyfer merched ifanc Somaliaidd Cymreig o Gaerdydd, a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, gyda chymorth ariannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.