Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
19 Hydref 2024 - 1 Mawrth 2025
Uwch Gyntedd
Daeth y ffotonewyddiadurwr o Kenya, Mohamed Amin (1943 – 1993) yn enwog am ddogfennu newyn Ethiopia yn 1984. Cafodd y lluniau yma effaith bwerus wrth ysgogi ymateb byd-eang ac arwain at y cyngerdd Live Aid eiconig yn 1985. Cynhyrchodd Amin gorff o waith arwyddocaol ac arloesol yn dogfennu Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol trwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif. Roedd hwn yn gyfnod o ailffurfio cyfandiroedd yn dilyn dau Ryfel Byd, ac o ganlyniad ymfudodd llawer i Gymru, i fyw, gweithio a chael noddfa. Wrth wraidd yr arddangosfa hon mae detholiad o ddelweddau Mohammed Amin o unigolion dylanwadol a weithiodd tuag at genedligrwydd a rhyddid, fel Nelson Mandela, Muhammad Ali a Malcolm X.
Mae tri artist cyfoes, Mo Hassan, Ali Goolyad a Kyle Legall, wedi ymateb yn greadigol - drwy ffotograffiaeth, barddoniaeth a phaentio - i’r delweddau yma sy’n dangos natur newid yn yr ugeinfed ganrif.
Arweiniwyd y prosiect hwn gan Horn Development Association ac fe’i ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.