Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Arddangosfa newydd sy’n dathlu celf gyfoes Gymreig o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Beth yw celf gyfoes felly? Ar ei symlaf, celf sy’n cael ei greu heddiw. Gall orielau a haneswyr celf ddiffinio ‘heddiw’ mewn sawl ffordd wahanol, ond yn yr arddangosfa hon rydym yn cyflwyno detholiad arbennig o weithiau celf o 1945 hyd at y presennol.
Yn ogystal â dod o gyfnod amser penodol, mae celf gyfoes hefyd yn adlewyrchu’r materion a grymoedd hynny sy’n ffurfio’n byd. Trwy eu gwaith, mae’r artistiaid hyn yn gwthio ffiniau mynegiant celfyddydol, gan ein hannog i gwestiynu ein syniadau ac ailystyried ein barn ar y byd. Gan gadw hynny mewn cof, edrychwch ar y gweithiau yn yr arddangosfa hon gyda meddwl a llygaid agored, a darganfod eich ffordd eich hun o wneud cyswllt gyda nhw.
Mae’r Llyfrgell yn cydweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru ac mae’r arddangosfa hon yn enghraifft o’r gweithiau sydd ar gael i’w benthyg i orielau ledled Cymru.