Symud i'r prif gynnwys

Aberystwyth ar Gamera Ffotograffau gan Pickfords 1880 – 1970

Mae'r ffotograffau hyn wedi'u dewis o archif fechan a oroesodd o fusnes Pickfords, ffotograffwyr masnachol yn Aberystwyth 1919-1972. Nid yw'r rhan fwyaf, os nad y cyfan, o'r delweddau hyn erioed wedi'u harddangos o'r blaen. Esblygodd y busnes ffotograffig a ddaeth yn Pickfords o stiwdio Carl Holt, a werthwyd ym 1871 i E R Gyde a dreuliodd bron i hanner can mlynedd yn tynnu lluniau yn y dref. Y ffotograffau cynharaf yn yr arddangosfa hon yw ei luniau, a dynnwyd ar blatiau gwydr 25 x 30 cm. Cyn ei farwolaeth ym 1919 roedd Gyde mewn partneriaeth am gyfnod byr â Mr H G Pickford a gymerodd y busnes drosodd wedyn. Mae Pickfords yn cael ei gofio'n annwyl gan genedlaethau o bobl y dref. Pickfords oedd y man cychwyn ar gyfer lluniau priodas, babi neu basbort ac ar gyfer datblygu ac argraffu. Ei ysgogwyr oedd Mr H G Pickford (1880-1947) a'i fab Glynn Pickford (1909-2001), a'r olaf oedd yn gyfrifol am y mwyafrif o'r ffotograffau yn yr arddangosfa hon.