Symud i'r prif gynnwys

10 Mai 2024 - 07 Medi 2024 

Oriel Gregynog a’r Anecs 

National Treasures: Canaletto in Aberystwyth 

Fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant y National Gallery, mae The Stonemason’s Yard gan Canaletto yn dychwelyd i Gymru. Mae benthyciad y gwaith hwn i Aberystwyth yn gyfle prin i weld y paentiad y tu allan i Lundain, a bydd yn rhan o’r arddangosfa Delfryd a Diwydiant, sy’n rhychwantu dwy oriel a 250 mlynedd o gelf. 


Yr Anecs 

Mae’r arddangosfa yn oriel yr Anecs yn adrodd stori anhygoel sut y daeth The Stonemason’s Yard, ymhlith trysorau eraill, i Gymru fel ffoadur rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gael ei gwarchod yn chwarel lechi Manod. Trwy ffotograffau, ffilm ac eitemau archifol o gasgliadau’r National Gallery a’r Llyfrgell Genedlaethol, mae’n dilyn taith y trysorau hyn o Lundain i Aberystwyth, ac yna ymlaen i Flaenau Ffestiniog. 


Oriel Gregynog 

Oriel fawreddog Gregynog yw’r oriel fwyaf yng Nghymru, a dyma lle bydd campwaith Canaletto yn cael ei arddagnos. Gan ddefnyddio The Stonemason’s Yard fel ysbrydoliaeth, bydd yr arddangosfa’n archwilio casgliad cenedlaethol y Llyfrgell o dirluniau Cymreig. 

Mae arddangosfa Delfryd a Diwydiant hefyd yn arddangos tirluniau Cymreig o'r Casgliad Celf Cenedlaethol gan edrych ar y cysylltiadau artistig a thematig rhwng The Stonemason’s Yard a thirwedd Cymru. Yn frodwaith cyfoethog o’r rhamantaidd a’r diwydiannol, mae ein tir wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i nifer o artistiaid. Bydd yr arddangosfa yn dangos gweithiau gan artistiaid clasurol fel Richard Wilson, J.M.W. Turner a Penry Williams ochr yn ochr gyda gweithiau mwy modern gan artistiaid fel Graham Sutherland, Mary Lloyd Jones ac Elfyn Lewis. 


Gweld rhai o'r gweithiau yn yr arddangosfa


Hygyrchedd

Mae taith sain arddangosfa National Treasures: Canaletto in Aberystwyth – Delfryd a Diwydiant ar gael, sy'n cynnwys disgrifiadau sain ar gyfer rhai eitemau yn yr arddangosfa.

Mae llyfrynnau print bras ar gael wrth fynedfa'r oriel. 

Ffotograffiaeth

Mae'r Llyfrgell yn caniatau tynnu lluniau, heb fflach, at ddefnydd personol, anfasnachol, ond peidiwch â defnyddio trybeddau, ffotograffiaeth fflach na ffyn hunlun. Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau nad yw'n torri unrhyw ddeddfau hawlfraint

Teuluoedd

Mae llyfryn gweithgaredd ‘Edrych ar Gelf’, sy’n addas ar gyfer plant 7-11 oed, ar gael wrth fynedfa’r oriel. 

Bwyd a Diod 

Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell



Delwedd y faner: Manylyn o Canaletto, 1697 - 1768, The Stonemason’s Yard, about 1725 © The National Gallery, Llundain