Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Mis Hanes Pobl Dduon wedi golygu sawl peth i sawl person, ar wahanol adegau ac mewn gwahanol rannau o’r byd. Fel plentyn; mae wedi tyfu o flaen ein llygaid, yn adrodd stori sydd nid yn unig am gaethwasiaeth, rhyfeloedd, cacao, tybaco, aur, diemwntau a phlanhigfeydd câns siwgr ond am wytnwch pobl.
Mae’r arddangosfa hon, a guradwyd gan Swyddog Prosiect Dad-drefedigaethu Archifau’r Llyfrgell, Miidong P. Daloeng, yn deillio o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru sy’n hyrwyddo ac yn dathlu cyfraniadau pobl Dduon i gymdeithas Cymru a’r byd yn ehangach. Mae hefyd yn anelu at feithrin gwell dealltwriaeth o hanes Du yn gyffredinol trwy themâu cerddoriaeth, celfyddydau, addysg, ymgyrchoedd ac ymerodraeth.
Mae hwn yn fyfyrdod o bwy oeddem ni, pwy ydym ni a’r dyfodol o’n blaenau.
Ymysg yr eitemau ar ddangos mae gweithiau celf gan Mfikela Jean Samuel, Joshua Donkor a Paul Peter Piech, ynghyd â detholiad o raglen Selwyn Roderick am gymuned Tiger Bay, Caerdydd, 'Capital City: Where's That Tiger Now?' (BBC, 2005), a deunydd amrywiol yn ymwneud ag unigolion megis Shirley Bassey DBE a Paul Robeson.